Brwydr Pwll Melyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu a del
Llinell 2:
Brwydr a ymladdwyd ar neu o gwmpas [[5 Mai]] [[1405]] yn ystod gwrthryfel [[Owain Glyndŵr]] oedd '''Brwydr Pwll Melyn'''.
 
Ymladdwyd y frwydr ger bryn Pwll Melyn, gerllaw [[Brynbuga]] yn [[Sir Fynwy]],. rhwngArweiniwyd byddiny fyddin Gymreig dangan un o 11 o fabfeibion Owain, [[Gruffudd ab Owain Glyndŵr]], a byddin Seisnig dan yr Arglwydd Grey o Codnor. Gorchfygwyd y Cymry, a chymerwyd Gruffudd yn garcharor i Monkswood ac oddi yno i [[Tŵr Llundain|Dŵr Llundain]] ble y bu farw 6 mlynedd yn ddiweddarach. Lladdwyd hefyd brawd Owain, [[Tudur ap Gruffudd]], a John ap Hywel, abad [[Abaty Llantarnam|Llantarnam]] a mil a hanner o filwyr Cymreig; bu hyn yn gnoc enfawr i ymgyrch y Cymru dros eu hannibyniaeth. Ildiodd 300 o ddynion i Grey, ond dienyddiwyd y rhan fwyaf ohonynt am eu trafferth, o flaen y castell.<ref>[http://www.deremilitari.org/resources/sources/usk.htm Battles and Campaigns from The Chronicle of Adam of Usk]</ref>
[[Delwedd:Usk Castle (3375712).jpg|bawd|chwith|Castell Brynbuga, ble dienyddiwyd nifer o'r 300 o Gymru a ildiodd wedi'r frwydr.]]
 
Ymladdwyd y frwydr, yn ôl yr hanesydd [[J. E. Lloyd]]<ref>J.E.Lloyd, ''The Battle of Pwll Melyn'', in ''Archaeologia Cambrensis'', 88 (1933), tud.347-8</ref> a sgwennai yn 1933, ar y tir i'r gogledd o Gastell Brynbuga: ar dir "Fferm y Castell" a ''Castle Oak Pond'' sef y 'Pwll Melyn' a roddodd ei enw i'r frwydr.<ref>J.E.Lloyd, ''The Battle of Pwll Melyn'', yn ''Archaeologia Cambrensis'', 88 (1933), tud.347-8</ref> Nododd Lloyd, hefyd, y darganuwyd nifer o ysgerbydau yn y pwll pan gafodd ei lanhau. Roedd dŵr y llyn yn frown-budur am flynyddoedd, efallai oherwydd y cyrff, a hyn a roddodd iddo'r enw 'Melyn', gair yr oes i ddisgrifio'r lliw. Bellach mae'r pwll wedi lleihau oherwydd gwaith draenio. I'r gorllewin o'r pwll y safodd y fyddin Gymreig gan ymosod ar ochr ogleddol y castell.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
==Llyfryddiaeth==