Xerxes I, brenin Persia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 55 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q129165 (translate me)
B Man gywiro
Llinell 3:
Roedd Xerxes yn fab i [[Darius I, brenin Persia]] ac [[Atossa]], merch [[Cyrus Fawr]]. Daeth yn frenin ar farwolaeth Darius yn 485 CC, a gorchfygodd wrthryfeloedd yn [[Yr Hen Aifft|yr Aifft]] a [[Babilon]]. Yn [[484 CC]], dygodd o ddinas Babilon y ddelw aur o Bel ([[Marduk]], a arweiniodd at wrthryfeloedd gan y Babiloniaid yn 484 CC a 479 CC.
 
Yn [[480 CC]], arweiniodd fyddin enfawr i wneud [[Gwlad Groeg|Groeg]] yn rhan o’r ymerodraeth. Roedd ei dad, Darius, wedi methu gwneud hyn ddeng mlynedd ynghynt, pan orchfygwyd ei fyddin gan yr Atheniaid ym [[Brwydr Marathon|Mrwydr Marathon]]. Roedd byddin Xerxes yn un enfawr; yn ôl [[Herodotus]] yn ddwy filiwn a hhannerhanner o wŷr, er nad yw haneswyr diweddar yn derbyn hyn. Ceisiodd byddin fechan o 300 o Spartiaid a 700 o Thespiaid dan arweiniad [[Leonidas]], brenin Sparta, atal y Persiaid yn [[Brwydr Thermopylae|Thermopylae]], lle roedd y ffordd tua’r de yn dilyn rhimyn cul o dir rhwng y mynyddoedd a’r mormôr. Bu ymladd am dri diwrnod a lladdwyd nifer fawr o’r Persiaid, ond yn y diwedd lladdwyd y Groegiaid i gyd pan ddangosodd bradwr i’r Persiaid lwybr trwy’r mynyddoedd a’u galluogodd i ymosod ar y Groegwyr o’r tu cefn.
 
Aeth y Persiaid ymlaen tuag Athen, lle roedd dadl a ddylent ymladd y Persiaid ar y tir ynteu dibynnuddibynnu ar eu llynges. Ar gyngor [[Themistocles]], penderfynwyd gadael y ddinas a defnyddio’r llynges i ymladd y Persiaid. Cipiwyd a llosgwyd Athen gan y Persiaid, ond gorchfygwyd llynges Xerxes gan lynges Athen a’i cyngheiriaidcynghreiriaid ynym [[Brwydr Salamis|Mrwydr Salamis]]. Dychwelodd Xerxes i Asia Leiaf, ond gadawodd [[Mardonius]] gyda byddin gref i ymladd y Groegiaid. Y flwyddyn ganlynol, gorchfygwyd a lladdwyd Mardonius gan fyddin o Roegiaid dan arweiniad [[Pausanias]], brenin Sparta ym [[Brwydr Plataea|Mrwydr Plataea]].
 
Cred rhai mai Xerxes yw'r cymeriad sy'n ymddangos yn [[y Beibl]] dan yr enw "Ahasfferus", enw sy'n tarddu o'r fersiwn [[Hebraeg]] o'i enw. Mae'n gymeriad yn [[Llyfr Esther]], lle ceir ei hanes yn priodi [[Esther]].