Estrys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q17592 (translate me)
Cell Danwydd (sgwrs | cyfraniadau)
Struthioniformes
Llinell 21:
}}
 
[[Aderyn]] mwyaf y byd yw'r '''Estrys''' (''Struthio camelus''), sy'n perthyn i [[Urdd (bioleg)|urdd o adar a elwir yn ''[[Struthioniformes]]''. Mae'r oedolyn yn 2.5&nbsp;medr o daldra ac mae'n pwyso 115&nbsp;cilogram.<ref name=Perrins>Perrins, Christopher, ''gol.'' (2004) ''The New Encyclopedia of Birds'', Gwasg Prifysgol Rhydychen.</ref> Mae ganddo wddf a choesau hir ac mae gan ei draed ddau fys troed. Mae'n methu hedfan ond mae'n gallu rhedeg yn gyflym iawn.<ref name=Perrins/> Mae'r gwryw'n ddu gydag esgyll gwyn a chynffon wen; mae plu'r fenyw'n llwydfrown.<ref name=Sinclair>Sinclair, Ian & Peter Ryan (2003) ''Birds of Africa south of the Sahara'', Struik, Tref y Penrhyn.</ref>
 
Mae'r estrys yn bwydo ar weiriau, hadau, ffrwythau a dail.<ref name=Perrins/> Fe'i ceir mewn [[safana]] a [[lled-anialwch]] yn [[Affrica]].<ref name=Perrins/> Ystyrir yr is-rywogaeth ''S. c. molybdophanes'' (Estrys Somalia) o [[Horn Affrica]] yn rhywogaeth wahanol gan rai dacsonomegwyr.<ref name=DK>Hennessey, Kathryn & Victoria Wiggins, ''goln.'' (2010) ''The Natural History Book'', Dorling Kindersley, Llundain.</ref>