452,433
golygiad
B (→Gweler hefyd) |
|||
Dywedir yn aml fod tarddiad Afon Elwy ar lethrau Moel Seisog, i'r de-ddwyrain o dref [[Llanrwst]]. Fodd bynnag dim ond o bentref [[Llangernyw]] ymlaen y defnyddir yr enw Afon Elwy. Yn ymyl Llangernyw mae tair afonig, Afon Cledwen, Afon Collen ac Afon Gallen, yn ymuno i ffurfio'r Elwy. Mae'r afon wedyn yn llifo tua'r dwyrain trwy bentref [[Llanfair Talhaiarn]] ac ychydig filltiroedd islaw'r pentref yma mae [[Afon Aled]], sy'n tarddu o [[Llyn Aled|Lyn Aled]] yn ymuno â hi.
Wedi llifo trwy Bont-newydd, mae'r afon yn troi tua'r gogledd ac yn llifo trwy [[Llanelwy|Lanelwy]]. Mae'n ymuno ag Afon Clwyd tua hanner ffordd rhwng Llanelwy a [[Rhuddlan]], ac yn aml gellir gweld dyfroedd y ddwy afon yn llifo ochr yn ochr heb gymysgu am rai milltiroedd.
Mae nifer o ogofeydd yn rhan isaf dyffryn Elwy o ddiddordeb [[archaeoleg]]ol mawr, gan eu bod yn cynnwys olion o'r [[Palaeolithig]] a chyfnodau mwy diweddar. Ystyrir y rhain yn un o'r grwpiau o ogofeydd pwysicaf ym Mhrydain. Darganfuwyd olion dyn [[Neanderthal]] mewn [[Ogof Pontnewydd|ogof ym Mhont-newydd]].
|