Bernard de Neufmarché: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso, categoriau
→‎Bywgraffiad: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 2:
 
==Bywgraffiad==
Ganed ef yng nghastell [[Le-Neuf-Marché-en-Lions]], ar y ffîn rhwng [[Normandi]] a [[Beauvais]]. Roedd yn perthyn o bell i [[Gwilym Goncwerwr]]. Rhoddwyd tiroedd yn [[Swydd Henffordd]] iddo gan y brenin yn 1086 neu 1087. Priododd Agnes (Nest), merch [[Osbern fitz Richard]] a Nest, merch [[Gruffudd ap Llywelyn]].
 
Ymosododd ar deyrnas Brycheiniog tua 1088, Cipiwyd [[Talgarth]], ac adeiladodd gastell [[Bronllys]]. Erbyn 1091, roedd wedi cyrraedd dyffryn [[afon Wysg]]. Yn ôl un cofnod diweddarach, gwnaeth brenin Brycheiniog, [[Bleddyn ap Maenarch]], gynghrair a [[Rhys ap Tewdwr]], brenin [[Deheubarth]] yn [[1093]] neu [[1094]], ac ymosododd ar Bernard, oedd yn adeiladu castell yn [[Aberhonddu]]. Lladdwyd Rhys yn y frwydr, a chipiodd Bernard y gweddill o Frycheiniog.