Bryn-y-Gefeiliau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 6:
Rhedai [[ffordd Rufeinig]] o [[Caerhun|Gaerhun]] yn [[Dyffryn Conwy|Nyffryn Conwy]] i fyny i Fryn-y-Gefeiliau. Mae union leoliad y ffordd ar ôl hynny yn ansicr ond mae presenoldeb caer ymarfer dros dro ym [[Pen-y-Gwryd|Mhen-y-Gwryd]] i'r de-orllewin yn awgrymu cysylltiad i gaer [[Segontium]] dros [[Pen-y-pass|Ben-y-Pas]] a thrwy [[Bwlch Llanberis|Nant Peris]].
 
Mae Bryn-y-Gefeiliau yn un o gaerau Rhufeinig llai Cymru. 3.9 acer yn unig a amgeir ynddi (tua'r un maint â [[Castell Collen|Chastell Collen]] yn ne Powys). Ceir muriau o gerrig a chlai o gwmpas y gaer. Y tu mewn iddi ceid o leiaf dwy ffordd fewnol (''intervallum'') a sawl adeilad o gerrig. Ceir awgrym fod un ohonyn nhw'n faddondy.
 
Ar ochr orllewinol y gaer ceir adeiladau atodol, tua'r un maint â'r gaer ei hun, wedi'u hamgae â mur cerrig. Mae'n cynnwys olion sawl adeilad o waith carreg. Mae'n bosibl fod yr adeiladau hyn yn gysylltiedig â hen weithle haearn — fel y mae'r enw Bryn-y-Gefeiliau yn awgrymu. Mae'n bosibl hefyd fod y Rhufeiniaid yn cloddio am [[plwm|blwm]] yn yr ardal.
Llinell 12:
Mae dyddio'r gaer yn broblematig. Dim ond un darn o arian bath a gafwyd ar y safle, a hynny'n rhy dreuliedig i ddangos enw'r ymerodr. Dibynnir ar dystiolaeth y darnau [[crochenwaith]] ar y safle i'w ddyddio. Mae'r rhain yn cynnwys darnau o lestri o waith Samaidd o gyfnod yr ymerodr [[Titus Flavius]] ac eraill o'r [[Almaen]] a chanolbarth [[Gâl]] sydd i'w dyddio i gyfnod [[Antoninus Pius]]. Ar sail y dystiolaeth hon awgrymir fod y gaer wedi cael ei sefydlu tua'r flwyddyn [[90]] a bod y Rhufeiniaid wedi rhoi'r gorau iddi rywbryd ar ôl tua [[150]].
 
Mae'r safle yng ngofal [[CADW]] ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr [[heneb]] hon gyda'r rhif SAM unigryw: CN010.<ref>[http://www.whatdotheyknow.com/request/15714/response/38315/attach/html/2/SAMs%20by%20UA.xls.html Cofrestr Cadw.]</ref>
 
==Cyfeiriadau==