Caer Drewyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 10:
| lon_deg = -3.36
}}
[[Bryngaer]] o [[Oes yr Haearn]] 1 filltir i'r gogledd o [[Corwen|Gorwen]] yn ne [[Sir Ddinbych]] yw '''Caer Drewyn''' (weithiau '''Caer Drewin'''). Fe'i lleolir ar fryn uwchlaw [[Dyffryn Edeirnion]] ar uchder o tua 280 medr. Wrth waelod y gaer mae cymuned fechan Pentre Trewyn - {{gbmapping|SJ087444}}.
 
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan [[Cadw]] a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: ME012.<ref>[http://www.whatdotheyknow.com/request/15714/response/38315/attach/html/2/SAMs%20by%20UA.xls.html Cofrestr Cadw.]</ref> Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o [[heneb]]ion, er bod [[archaeoleg]]wyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
 
Rhed [[Afon Dyfrdwy]] islaw. O safle'r fyngaer ceir golygfeydd eang o Ddyffryn Edeirnion ac o'r mynyddoedd i'r gorllewin a'r gogledd.
 
== Disgrifiad a hanes ==
Llinell 20:
Mae'r llwybr i fyny'r dyffryn wedi bod yn dramwyfa bwysig ers gwawr hanes a diau fod lleoliad strategol y gaer fawr hon, ar drofa yn y dyffryn, yn adlewyrchu hynny. Mae'r gaer yn gorwedd ar y ffin rhwng tiriogaeth y [[Deceangli]] i'r gogledd a'r [[Ordovices]] i'r de.<ref>*Christopher Houlder, ''Wales: an Archaeological Guide'' (Llundain, 1978).</ref>
 
Mae'r fryngaer yn safle cymhleth. Tybir fod o leiaf pedwar cyfnod o adeiladau ar y safle. I ddechrau roedd 'na glawdd pridd siap bedol yn terfynu ar glogwyn i'r gogledd. Mae rhan o'r gwaith hwn yn aros heddiw fel atodiad i'r brif gaer ar ei hochr ddwyreiniol. Mae'n bosibl fod hyn yn dyddio i ddiwedd [[Oes y Cerrig]].<ref name="A. Hogg, 1965">*A. H. A. Hogg, 'Early Iron Age Wales', yn ''Prehistoric and Early Wales'' (Llundain, 1965).</ref>
 
Mae'r gaer ddiweddarach yn cynnwys gwrthglawdd anferth o gerrig gyda mynedfeydd ar yr ochr orllewinol a'r ochr gogledd-ddwyreiniol. Ceir celloedd i warchod ygaer wedi'u hailadeiladu ym mynedfa'r gogledd-ddwyrain. Roedd llwybr o gwmpas y muriau. Rhed ffos ddofn oddi amgylch y cyfan. Mae'r gwaith hwn yn debyg iawn i'r hyn a geir ym mryngaer fawr [[Tre'r Ceiri]] a lleoedd eraill yn [[Llŷn]].
 
Yn ddiweddarach ychwanegwyd clostir trionglog, yn ôl pob tebyg yn ystod y [[Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|cyfnod Rhufeinig]] neu'n fuan ar ôl hynny. Ceir gweddillion [[cytiau Gwyddelod|cytiau crwn o gerrig]] tu mewn; ceir olion sy'n awgrymu adeiladau petrual ar bedwar postyn yn ogystal. Yn y gornel ogledd-ddwyreiniol gwelir olion llwyfannau tai.<ref>*A. H. name="A. Hogg, 'Early Iron Age Wales', yn ''Prehistoric and Early Wales'' (Llundain, 1965).<"/ref>
 
Yn ddiweddarach eto codwyd tai bychain canoloesol ar lwyfannau wrth fynedfa orllewinol y fryngaer, ond nid oes unrhyw dystiolaeth fod y gaer ei hun yn cael ei defnyddio yn y cyfnod hwnnw.