Cantref Mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 2 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q2936885 (translate me)
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 5:
Roedd y '''Cantref Mawr''' yn [[cantref|gantref]] yn ne-orllewin [[Cymru]]. Yr oedd o bwysigrwydd strategol mawr yn y [[Canol Oesoedd]] oherwydd mai yma yr oedd prif ganolfan tywysogion [[Deheubarth]], sef [[Castell Dinefwr|Dinefwr]]. Ei ganolfan grefyddol oedd [[Abaty Talyllychau]].
 
Roedd pob cantref wedi ei rannu i unedau llai, y [[cwmwd]]. Fel rheol byddai dau neu dri cwmwd mewn cantref, ond roedd y Cantref Mawr yn cynnwys saith cwmwd ac yn un o'r cantrefi mwyaf yng Nghymru. Roedd yn ardal fynyddig rhwng [[Afon Tywi]], [[Afon Teifi]] ac [[Afon Gwili]]. Yn y cyfnod hwn roedd coedydd yn gwneud ymosod ar y cantref yma yn anodd, ac felly byddai'n noddfa i dywysogion Deheubarth pan ymosodid arnynt.
 
Gyda'r [[Cantref Bychan]] ffurfiai'r Cantref Mawr arglwyddiaeth [[Ystrad Tywi]]. Collwyd meddiant ar y Cantref Mawr gan dywysogion Deheubarth yn [[1277]] a daeth yn rhan o'r [[Sir Gaerfyrddin]] newydd.