Castell Odo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso
tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 13:
==Disgrifiad==
[[Delwedd:Castell Odo 609772.jpg|bawd|250px|chwith|Castell Odo]]
Mae'r gaer ar fryn gweddol fychan, sydd wedi ei amgylchynu gan ddau gylch o amddiffynfeydd. Y cylch allanol yw'r hynaf, ac ymddengys ei fod wedi bod o bren yn wreiddiol, cyn i'r wal bren gael ei throi yn amddiffynfeydd pridd. Ceir olion cytiau crwn ar ben y bryn, rhai efallai wedi eu hadeiladu cyn i'r amddiffynfeydd gael eu codi.
 
Darganfuwyd crochenwaith yma sy'n dyddio o ddiwedd [[Oes yr Efydd]], felly credir fod y safle yma yn un o'r cynharaf o'i bath yng Nghymru. Gellir gweld olion o leiaf wyth tŷ cerrig tu mewn i'r amddiffynfeydd.<ref>Lynch, Frances (1995) ''Gwynedd'' (''A guide to ancient and historic Wales'') (Llundain:HMSO).</ref>
Llinell 20:
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan [[Cadw]] a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN045.<ref>[http://www.whatdotheyknow.com/request/15714/response/38315/attach/html/2/SAMs%20by%20UA.xls.html Cofrestr Cadw.]</ref> Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o [[heneb]]ion, er bod [[archaeoleg]]wyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
 
Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy [[Tre'r Ceiri]], a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin [[Ewrop]].<ref>References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.</ref> Mae ei [[arwynebedd|harwynebedd]] oddeutu 2.5[[ha]].<ref>[http://www.bbc.co.uk/wales/northwest/sites/celts/pages/trer_ceiri.shtml Gwefan y BBC]</ref> Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy [[Bryngaer Llanymynech]] sydd ag arwynebedd o 57 hectar.<ref>[http://www.cpat.org.uk/projects/longer/llanymyn/llanym.htm Gwefan CPAT]</ref>
 
Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y [[Rhufeiniaid]]; er enghraifft [[Dinorben]] yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng [[200 CC]] ac OC [[43]].