Ceinewydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu a diweddaru
tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 27:
==Hanes==
[[Delwedd:Traeth y Cei 1988.jpg|bawd|chwith|250px|Traeth y Cei]]
Bychan iawn oedd y pentref yma cyn i John a Lewis Evans brynnu "Ystâd Neuadd" yn 1791. Dim ond tri thŷ a chwe bwthyn oedd ar yr ystâd a oedd yn 1,200 cyfer. Hen fferm oedd ar y safle ble mae Gwesty Pen Wig heddiw. Felly, mae'n bentref eithaf diweddar – nid oes golwg ohoni ar fapiau tan canol y ddeunawfed ganrif – ond yn fuan dechreuodd dyfu fel pentref pysgota ac yna fel atyniad twristaidd boblogaidd. Does dim dwywaith fod [[smyglo]] hefyd wedi chwarae rhan bwysig o'r economi leol ar yr adeg hon. Tua chanol y 19eg ganrif, daeth Ceinewydd yn borthladd pwysig yn darparu [[calch]] i'r ffermydd lleol. Adeiladwyd sawl llong yno hefyd. Ond gyda dyfodiad y [[rheilffordd]] i'r trefi cyfagos, daeth diwedd i bwysigrwydd y pentref. Bellach, twristiaeth yw diwydiant pennaf Ceinewydd. Mae rhai o'r ffermydd yn dyddio i'r [[16eg ganrif]] neu cyn hynny; nodir "Crawgal" a "Chefn Gwyddil" yn arolwg 1587 a "Phen Coed" a "Phenrhiwpistyll" wedi eu codi ar ddechrau'r [[17eg ganrif]]. Yn y pentref, yn wreiddiol, Penygeulan (neu Rhes Glanmor, heddiw) oedd y rhes cyntaf o dai, a'r rheiny'n fythynod clom, to gwellt, a Glyngoleu sydd ar y bryn i'r dwyrain o'r môr. Mae'r rhan fwyaf o dai heol Glyngoleu, bellach, wedi'u bwyta gan donnau'r môr. Codwyd Dolau, Wellington Place a'r tai ar waeld Heol yr Eglwys cyn codi'r cei yn 1835.
 
===Eglwysi===
Ceir yma dwy eglwys hynafol: Llanllwchhaearn a Llanina. Cysegrwyd y cyntaf i sant [[Iwerddon|Gwyddelig]] a'r ail i [[Ina]], merch [[Ceredig]], llywodraethwr [[Ceredigion]] yn y [[6ed ganrif]]. Mae'r ddwy eglwys yn cael eu nodi ar fapiau mor gynnar â 1644.
 
===Yr harbwr===
Llinell 44:
==Cyfrifiad 2011==
Yng [[Cyfrifiad 2011|nghyfrifiad 2011]] roedd y sefyllfa fel a ganlyn:<ref>{{cite web|url=http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html|title=Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru|publisher=Swyddfa Ystadegau Gwladol|accessdate=2012-12-12}}. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.</ref><ref>[http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/94179-cyfrifiad-niferoedd-y-siaradwyr-cymraeg-wedi-disgyn Canran y diwaith drwy Gymru]; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013</ref><ref>[http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/94179-cyfrifiad-niferoedd-y-siaradwyr-cymraeg-wedi-disgyn Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol]; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.</ref><ref>[http://wales.gov.uk/topics/statistics/headlines/economy2010/101117/?skip=1&lang=cy Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; ''Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.''; adalwyd 31 Mai 2013]</ref>
 
 
{{bar box