Agor y brif ddewislen

Newidiadau

Lleihawyd o 5 beit ,  3 blynedd yn ôl
tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
[[Image:View from Gwydir Forest.jpg|bawd|Coedwig Gwydir, yn edrych tua'r [[Glyderau]] a'r [[Carneddau]].]]
Coedwig yn [[Conwy (sir)|sir Conwy]] yng ngogledd [[Cymru]] yw '''Coedwig Gwydir''', hefyd '''Coed Gwydir''', a weithiau wedi'i chamsillafu '''Coedwig Gwydyr'''. "Coedwig Gwydir" yw'r ffurf a ddefnyddir gan y perchenogion, [[Comisiwn Coedwigaeth Cymru]].
 
Mae'r rhan fwyaf o'r goedwig ar lechweddau dwyreiniol [[Eryri]], o gwmpas [[Betws-y-Coed]], ac mae'n ymestyn i'r gogledd cyn belled a phentref [[Trefriw]] ac i'r de i gyffiniau [[Penmachno]]. O'r arwynebedd o 72.5 km sgwar, mae tua 49 km sgwar yn goedwig gynhyrchiol. Mae rhwng 700 a 1000 o droedfeddi uwch lefel y môr. Dechreuwyd plannu'r goedwig yn 1921, a cheir nifer o rywogaethau o goed bytholwyrdd yno.
 
==Llynnoedd==
[[File:Cors Bodgynydd Reservoir - geograph.org.uk - 221635.jpg|bawd|[[Llyn Bodgynydd]], Coedwig Gwydry]]
Ceir cryn nifer o lynnoedd yn y goedwig:
 
* [[Llyn Crafnant]] (63 acer)
 
==Gwydir==
Ceir sawl ffurf ar yr enw 'Gwydir', yn cynnwys 'Gwydyr' a 'Gwyder'. Nid yw'r ansicrwydd am y ffurf gywir yn rhywbeth newydd. Ar ddiwedd llythyr at [[Evan Evans (Ieuan Fardd)|Ieuan Fardd]] a ysgrifenwyd yn [[1767]], mae'r hynafiaethydd [[Richard Morris]] ((1703 - 1779), un o [[Morysiaid Môn|Forysiaid Môn]], yn dweud "''Rhowch fy ngharedigol orchymyn at y Cyfaill mwyn Mr. Williams o'' Wedyr ''ynte'' Gwydyr, Gwydir, Gwydr, Gwaedir, Gwaederw ''etc. etc. Pa un yw'r goreu?''".<ref>Hugh Owen (gol.), ''Additional Letters of the Morrisses of Anglesey (1735-1786)'', Cyfrol II (Trafodion [[Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion]], Llundain, 1949).</ref>
 
==Llyfryddiaeth==
345,787

golygiad