Cyfeiliog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Powys Cantrefi.jpg|200px|bawd|Map braslun o brif israniadau Powys]]
[[Delwedd:DyfiValley.jpg|200px|bawd|Bryniau Cyfeiliog o lannau afon Dyfi]]
[[Cwmwd]] canoloesol yn nheyrnas [[Teyrnas Powys|Powys]] oedd '''Cyfeiliog'''.
 
Gorweddai yn ne-orllewin y deyrnas ar y ffin â [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] a [[Deheubarth]]. Ffiniai â [[Mawddwy]], [[Caereinion]] ac [[Arwystli]] ym Mhowys ei hun. I gyfeiriad y gorllewin, ffiniai â chwmwd [[Ystumanner]] ym [[Meirionnydd]] (teyrnas gynnar a ddaeth yn rhan o Bowys ac wedyn yn rhan o Wynedd), a [[Genau'r Glyn]] a chwmwd [[Perfedd (cwmwd)|Perfedd]] yng [[Teyrnas Ceredigion|Ngheredigion]] (a ddaeth i feddiant [[Teyrnas Deheubarth]]). Roedd Cyfeiliog yn cyffwrdd y môr yn aber [[afon Dyfi]] (ger [[Machynlleth]] heddiw), ac felly'n gorwedd rhwng dwy deyrnas fawr Gwynedd a Deheubarth, a wahanid gan afon Dyfi.
Llinell 9:
Oherwydd ei sefyllfa ddaearyddol, wynebai Cyfeiliog ymosodiadau o sawl cyfeiriad ac roedd meddiant arno, neu gael gwrogaeth ei arglwydd, o bwys strategol i reolwyr Gwynedd, Powys a Deheubarth.
 
Ychydig a wyddys am hanes cynnar y cwmwd. Yn [[1149]] rhoddodd [[Madog ap Maredudd]], Tywysog Powys, Gyfeiliog i'r tywysog ifanc [[Owain Cyfeiliog|Owain ap Gruffudd ap Maredudd]] a'i frawd Meurig. Cyn hynny bu ym meddiant [[Gruffudd ap Maredudd]], ei dad. Daethpwyd i arfer galw Owain yn [[Owain Cyfeiliog]], efallai i wahaniaethu rhyngddo ag [[Owain Gwynedd]]. Cofir Owain Cyfeiliog heddiw am ei gerddi, yn enwedig ''Hirlas Owain''.
 
Yn ôl ''[[Brut y Tywysogion]]'', cipiwyd Cyfeiliog yn [[1153]] a'i dal am gyfnod gan yr [[Arglwydd Rhys]] o Ddeheubarth. Yn [[1162]] cipiodd Owain Gwynedd gastell Tafolwern. Hawliai'r Arglwydd Rhys y cwmwd eto yn nes ymlaen. Pan ymranodd Powys yn ddwy dywysogaeth yn [[1167]], daeth Cyfeiliog yn rhan o [[Powys Wenwynwyn|Bowys Wenwynwyn]]. Yn [[1195]] enciliodd Owain i [[Abaty Ystrad Marchell]], ac etifeddwyd Cyfeiliog, a gweddill de Powys, gan ei fab [[Gwenwynwyn ab Owain|Gwenwynwyn]].