Cytundeb Heddwch Caerwrangon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso, categoriau
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 1:
Cytundeb heddwch rhwng [[Llywelyn Fawr]] a [[Harri III o Loegr]] a arwyddwyd ym mis [[Mawrth]], [[1218]], oedd '''Cytundeb Heddwch Caerwrangon'''.<ref name="R. Davies, 1987">R. R. Davies, ''Conquest, Coexistence and Change: Wales 1063-1415'' (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1987).</ref>
 
Daeth y cytundeb ar ôl cyfres o fuddugoliaethau gan Lywelyn Fawr wrth iddo ymestyn ei awdurdod dros rannau helaeth o [[Gogledd Cymru|Ogledd Cymru]] a'r [[Canolbarth Cymru|Canolbarth]]. Cynhaliwyd y drafodaeth gyda [[Ednyfed Fychan]] yn cynrychioli Llywelyn a legat y [[Pab]], Guala, yn gweithredu fel cyfryngydd rhwng y ddwy blaid. Arwyddwyd y cytundeb yng [[Caerwrangon|Nghaerwrangon]] rywbryd ym mis Mawrth, 1218.<ref>R. name="R. Davies, ''Conquest, Coexistence and Change: Wales 1063-1415'' (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1987).<"/ref>
 
Cytundeb dros dro oedd Cytundeb Heddwch Caerwrangon. O safbwynt Llywelyn rhoddai'r cyfle i gadarnhau ei awdurdod a pharatoi am symudiadau nesaf brenin Lloegr. Yn ôl termau'r cytundeb, bu rhaid iddo dderbyn awdurdod [[ffiwdaliaeth|ffiwdal]] ffurfiol brenin Lloegr, ond peth cyffredin oedd hynny yn yr [[Oesoedd Canol]] gyda brenhinoedd yn ddeiliad i frenhinoedd eraill a fyddai yn eu tro yn arglwyddi mewn enw ar frenhinoedd eraill, mwy grymus efallai.<ref>R. name="R. Davies, ''Conquest, Coexistence and Change: Wales 1063-1415'' (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1987).<"/ref>
 
Ond cadarnhaodd y cytundeb awdurdod Llywelyn Fawr mewn sawl ardal tu allan i [[Gwynedd Uwch Conwy]], yn cynnwys [[Y Berfeddwlad]], [[Powys Wenwynwyn]], a [[Maldwyn]]. Cydnabuwyd yn ogystal ei hawl i ddal dau gastell pwysig iawn yn y de, sef [[Castell Caerfyrddin]] a [[Castell Aberteifi|Chastell Aberteifi]].<ref>R. name="R. Davies, ''Conquest, Coexistence and Change: Wales 1063-1415'' (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1987).<"/ref>
 
==Cyfeiriadau==