Edmwnd Tudur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
beddrod
→‎Marw: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 9:
Yn eironig, yng Nghymru y bu farw Edmwnd, wedi iddo gael ei ddanfon gan y brenin i roi trefn ar Dde Cymru, gan nad oeddent yn derbyn awdurdod Dug Efrog a'i gynrychiolydd sef [[William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469)]] yng Nghymru, i arglwyddiaethu drostynt. Dyma ddechrau'r cyfnod a elwir yn [[Rhyfel y Rhosynnau]], gyda'r brenin, Siasbar, Edmwnd - a'u tad Owain Tudur yn ochri gyda [[Lancastriaid]] a'r Dug Efrog ac eraill gyda'r [[Iorciaid]]. Fe'i carcharwyd am ychydig gan Herbert yng Nghastell Caerfyrddin, lle'r aeth yn wael; ni wyddus yn union beth a achosodd ei farwolaeth, ac mae'n bosibl mai cael ei wenwyno a wnaeth.
 
Canodd y beirdd am Edmwnd: 'yn frawd i'r brenin, nai i'r ''Dauphin'' a mab Owain', bu farw yn ddim ond 26 oed. Llai na hanner hynny oedd oedran ei ail-wraig Margaret o Anjou: deuddeg. Ac ar ddiwrnod ei farwolaeth, ni wyddai Edmwnd fod yn ei chroth blentyn - Harri. Yn dilyn marwolaeth Edmwnd cymerodd Siasbar ofal ohono a'i ystâd enfawr. Yn dilyn buddugoliaeth yr Iorciaid ym [[Brwydr Mortimer's Cross|Mrwydr Mortimer's Cross]] gorseddwyd [[Edward VI, brenin Lloegr|Edward VI]] yn frenin a dihangodd Sisbar, Harri a'i wraig Margaret i'r [[Alban]], [[Ffrainc]], [[Llydaw]] a gwledydd eraill gan geisio annog ailfeddianu coron Lloegr i Edward.
 
Ar 1 Hydref 1456 bu farw Edmwnd; ar 28 Ionawr 1457, 4 mis yn ddiweddarach, ganwyd Harri yng Nhastell Penfro, gan adael ddeufis yn ddiweddarach yn ôl i'w cartref yn Llundain.