Esgob Tyddewi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 3:
Llywodraethwr eglwysig [[Esgobaeth Tyddewi]] yng ngorllewin [[Cymru]] yw '''Esgob Tyddewi'''. Yn draddodiadol ystyrir [[Dewi Sant]] fel Esgob cyntaf Tyddewi. Mae cofnodion am y cyfnod cynnar yn gyfyngedig i ambell gofnod yn yr ''[[Annales Cambriae]]'' a ''[[Brut y Tywysogion]]''. Er enghraifft, cofnodir i'r [[Daniaid]] anrheithio [[Tyddewi]] yn [[999]], a lladd yr esgob [[Morgeneu]]; y cyntaf o Esgobion Tyddewi, meddir, i dorri ar draddodiad Dewi o ymwrthod a bwyta cig.
 
Yn yr [[11eg ganrif]] roedd yr esgobion [[Sulien]] a'i fab [[Rhygyfarch ap Sulien]] yn ysgolheigion nodedig. I Rhygyfarch y priodolir y ''[[Vita Davidiis]]'' ("Buchedd Dewi"), a gyfansoddwyd i amddiffyn annibyniaeth yr esgobaeth oddi wrth [[Archesgob Caergaint]]. Yn [[1176]], enwebwyd [[Gerallt Gymro]] yn esgob, ond gwrthododd y brenin [[Harri II o Loegr]] ei dderbyn, yn ôl pob tebyg oherwydd ei ymgyrch dros annibyniaeth yr [[esgobaeth]], ymgyrch a gafodd gefnogaeth [[Llywelyn Fawr]].
 
Yn ystod ymrysonau crefyddol yr [[16eg ganrif]], carcharwyd yr esgob [[Robert Ferrar]] am [[heresi]] gan [[Mari I o Loegr|Mari Tudur]], ac, ar ôl gwrthod datgyffesu, fe'i llosgwyd wrth y stanc ar sgwâr y farchnad yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]] ar [[30 Mawrth]] [[1555]].
 
Yr esgob presennol yw'r Gwir Barchedig [[John Wyn Evans]] a benodwyd ar brynhawn Llun, [[1 Medi]] [[2008]].
 
==Rhestr o Esgobion Tyddewi==