Ffatri Airbus UK, Brychdyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Nifer diweddaraf o'r A320, A350 a A380 hyd at Tachwedd 2015
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 3:
Fe adeiladwyd y ffatri ym Mrychdyn fel ffatri ‘cysgod’ yn nechrau yr [[Ail Ryfel Byd]]. Dros y blynyddoedd mae wedi cael ei ddefnyddio gan y cwmniau Vickers-Armstrongs Ltd; The de Havilland Aircraft Co. Ltd; Hawker Siddeley Aviation Ltd; [[British Aerospace/BAE Systems|BAE Systems]] a heddiw gan [[Airbus UK|Airbus]].
 
Fe agorwyd y ffatri ym Medi 1939 o dan reolaeth Vickers-Armstrongs i adeiladu'r awyren fombio Vickers Wellington. Fe hedfanodd yr awyren gyntaf ym mis Awst 1939 ar ôl cael ei hadeiladu mewn cyfleusterau dros dro, cyn i’r prif adeiladau gael eu gorffen. Fe roedd yna 7,000 o bobl yn gweithio ym Mrychdyn yn 1943, rhyw 5,000 ohonynt yn ferched. Fe adeiladwyd 5,540 o awyrenau Wellington rhwng Awst 1939 a Medi 1945, gyda uchafswm o 130 awyren y mis yn cael eu cynhyrchu.
 
Ym 1944 fe gafwyd cytundeb i adeiladu 680 o’r awyrenau fomio Avro Lancaster ond gyda diwedd yn dod i’r rhyfel, dim ond 235 gafodd eu cynhyrchu rhwng Mehefin 1944 a Medi 1945, gyda uchafswm o 36 y mis. Mae y Lancaster PA474 sydd yn hedfan heddiw gyda’r Lly Awyr‘ Battle of Britain’ flight yn un o rhai diwethaf a gynhyrchwyd ym 1945.
Llinell 9:
Ar ôl gorffen adeiladu awyrennau ym 1945, fe defnyddiwyd y ffatri i gynhyrchu rhyw 28,000 o dai ‘ pre-fabs ‘ hyd at Mawrth 1948.
 
Yn nechrau 1948 fe roedd y de Havilland Aircraft Co. Ltd. o Hatfield, swydd Hertfordshire yn edrych i helaethu eu cyfleusterau gyda gwaith allforio, a cymerwyd y ffatri drosodd ar y 1af Gorffennaf 1948. Yr awyren gyntaf i hedfan dan rheolaeth de Havilland oedd dh Mosquito NF38 ym mis Medi 1948 ac fe adeiladwyd 81 Mosquito rhwng 1948 a Tachwedd 1950.
 
Awyrenau eraill o stabl de Havilland i’w adeiladu ym Mrychdyn yn y 50au a’r 60au oedd :-
Llinell 22:
*Dh Sea Vixen, 30 rhwng 1962 a 1966.
 
Ym 1966/67 fe gafodd un o’r ddau awyren Comet diwethaf ei addasu i fod yn awyren cynddelw i’r HS801 Nimrod, a hedfanodd am y tro cyntaf o Frychdyn ar y 23ain Mai 1967 a glaniodd yn Woodford, ger Manceinion. Rhwng 1966 ac 1970 fe gafodd prif ddarnau 46 awyren Nimrod eu hadeiladu ym Mrychdyn ac eu cludo ar yr y ffyrdd i Woodford i'w cyd-osod a hedfan.
 
Ym 1962 fe gymerwyd de Havilland drosodd gan Hawker Siddeley Aviation Ltd., a hefyd ym 1962 fe ddechreuodd paratoadau ar gyfer cynhyrchu y DH125 ‘executive jet’. Fe roedd y 125 yn awyren llwyddianus dros ben gyda 871 ohonynt yn cael eu cynhyrchu a'u hedfan o Brychdyn rhwng 1963 ac 1996. Fe gafodd [[British Aerospace]] ei ffurfio yn 1977 fel yr unig gynhyrchwr awyrenau gwladol ond fe werthwyd y busnes ‘Corporate Jets’ i [[Raytheon]] o’r [[UDA|Unol Daleithiau]] ym 1993. Mae prif ddarnau o’r awyren 125 yn cael eu adeliladu o hyd ym Mrychdyn ac yn cael eu cludo dramor i’r Unol Daleithiau i'w gorffen fel yr awyren Hawker 800.
 
Ym 1969 fe gafodd Airbus Industrie ei ffurfio rhwng Ffrainc a’r Gorllewin yr Almaen, fe cafodd Hawker Siddeley ei gynnwys fel contractwr i gynhyrchu yr adain i’r awyren A300 ac fe gludwyd y par cyntaf i Bremen ym mis tachwedd 1971. Fe cludwyd y canfed par ym 1978.
 
Fe cyflawnwyd y cerrig milltir a sydd yn dilyn ;-
Llinell 40:
Yng nghanol 2011 bu 36 par o adenydd y teulu A320 yn cael ei cynhyrchu pob mis , ac mae y cyfradd hwn i’w godi i 40 y mis o ddechrau 2012 . Fe cyflawnwyd y 5000ed par o adenydd I’r teulu A320 yn nghanol 2011. Mae'r A320 wedi bod mor llwyddianus , gyda fersion newydd yr A320neo wedi ei datblygu , fod yna dros 12000 o'r awyrenau wedi eu gwerthu hyd at ddiwedd 2015. Mae y nifer y mis o'r awyrenau yw gynhyrchu i godi o'r 42 y mis yn 2015 i 50 y mis yn 2017 a 60 y mis yn 2019 .
 
Yn Awst 2001 fe ddechreuodd gwaith ar y ‘ Ffatri orllewinol “ i adeiladu adain i’r ‘Superjumbo’ A380 ac fe agorwyd yng Ngorffennaf 2003. Fe wariwyd rhyw £350m ar y cyflesterau ac mae yr adeilad yn 400 meter o hyd a 200 meter o led, un o'r adeiladau mwyaf yn y wlad. Fe orffenwyd yr adain cyntaf ym Mawrth 2004; mae pob adain yn 36 meter o hyd ac yn pwyso rhyw 30 tunell. Yn lle hedfan mewn awyren cludo 'Beluga' mae maint yr adain yn golygu rhaid iddynt dechrau eu taith ar yr [[Afon Dyfrdwy]] i [[Mostyn]] lle meant yn cael eu cludio i [[Bordeaux]] ar y llong "Ville de Bordeaux". Fe hedfanodd yr A380 am y tro cyntaf yn Ebrill 2005 ac mae 317 o'r awyrenau (tuag at mis Tachwedd 2015) wedi eu gwerthu i gwmniau hedfan y byd gyda 176 o'r awyrenau nawr yn hedfan .
 
Ym mis Hydref 2006 fe werthwyd siar 20% a oedd gan BAE Systems yn Airbus, ac ers hynnu perchenog 100% o Airbus, a’r ddwy ffatri a sydd ganddynt ym Mhrydain Fawr, ym Mrychdyn a Filton, yw EADS ( European Aeronautic Defence and Space ).
 
Yn 2008 dechreuodd cynllunio am adeilad newydd `ffatri'r gogleddol` i'r awyren A350; mae yr A350 yn wahanol i'r awyrennau o'i blaen yn defnyddio CFC (Carbon Fibre Composite) yn lle alwminiwm i weithgynhyrchu yr adain.
Llinell 48:
Fe agorwyd y ffatri ‘gogleddol’ I gynhyrchy yr A350 ar y 13ed Hydref 2011 gan y Prif Weinidog David Cameron. Mae’r ffatri yn gorchuddio 46,000 meter sgwar ac wedi costio rhyw 450 miliwn euro, un o’r adeiladau mwyaf I’w godi ym Mhrydain Fawr yn y blynyddoedd diwethaf.
 
Mae adain yr A350 yn cael ei cydosod ym Mhrychdyn o ddarnau sydd yn cael eu cynhyrchu o gwmpas y byd . Mae’r croen uchaf CFC sydd yn 31 x 6 meter o faint, yn dod o Stade yn yr Almaen a’r croen isaf yr un maint yn dod o Illcescas yn Sbaen. Mae’r ‘spar’ blaenol yn dod o’r Unol Dalieuthau ar ‘spar’ cefn yn dod o GKN ym Mryste.
 
Ar ol cydosod yr adenydd ym Mhrychdyn, meant yn cael eu trosglwyddo i Bremen i’w gorffen gyda'r systemau tanwydd, trydan, hydroleg, yr isfframiau a'r rheolaethau hedfan yn cael eu gosod, cyn i'r adenydd cyrraedd Toulouse a chydosod terfynol yr awyren. Fe cyrraeddodd yr adain cyntaf ( ochr dde ) i'r awyren prawf strwythyrol yn Toulouse ar y pedwerydd Medi 2012 ac fe gyrraeddod yr adain i'r awyren cyntaf i hedfan MS001 ym mis hydref 2012. Fe hedfanodd yr awyren A350 cyntaf o Toulouse ar yr 14ed Mehefin 2013; mae tua 775 o’r awyrennau wedi ei gwerthu hyd at hyn.
 
Heddiw mae tua 6,000 o weithwyr ym Mrychdyn yn gweithio ar adenydd Airbus.