Gangani: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 2 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q3095139 (translate me)
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 3:
Roedd y '''Gangani''' yn llwyth [[Celtiaid|Celtaidd]] oedd a'u tiriogaeth ar benrhyn [[Llŷn]], [[Gwynedd]]. Ychydig iawn a wyddis amdanynt, ond mae'n bosibl eu bod yn is-lwyth o'r [[Ordoficiaid]]. Crybwyllir y llwyth gan y daearyddwr [[Groeg yr Henfyd|Groegaidd]] [[Ptolemy]], sy'n rhoi enw penrhyn Llŷn fel ''Ganganorum Promontorium'' (Penrhyn y Gangani). Mae Ptolemy'n cyfeirio at lwyth o'r un enw yng ngogledd-orllewin [[Iwerddon]] yn ogystal. Ni wyddom pa mor agos oedd y cysylltiad Gwyddelig, ond mae'n awgrymiadol gan fod y rhan hon o Gymru'n mwynhau perthynas agos gyda'r Gwyddelod yn yr [[Yr Oesoedd Canol Cynnar yng Nghymru|Oesoedd Canol Cynnar]] (fel yn achos [[Dyfed]] yn y de-orllewin).
 
Efallai fod y gaer Rufeinig ym [[Pen Llystyn|Mhen Llystyn]] yn nhiriogaeth y llwyth yma, efallai ar y ffin rhyngddynt hwy a'r Ordoficiaid i'r dwyrain. Rhedai ffordd Rufeinig trwy Ben Llystyn sy'n cysylltu [[Segontiwm]], prif gaer y Rhufeiniaid yn y gogledd-orllewin, a [[Tomen y Mur]] (ger [[Trawsfynydd]]). Mae nifer o [[Bryngaer|fryngeiri]] yn nhiriogaeth y llwyth, gan gynnwys [[Tre'r Ceiri]] rhwng [[Trefor]] a [[Nefyn]], [[Carn Fadryn]] a [[Castell Odo|Chastell Odo]] ym mhen eithaf Llŷn.
 
{{Llwythau Celtaidd Cymru}}