Gweledigaethau y Bardd Cwsc: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Cefndir a chynnwys: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 4:
 
==Cefndir a chynnwys==
Mae'r gwaith yn seiledig yn fras ar gyfieithiadau Saesneg [[Roger L'Estrange]] a [[John Stevens]] o'r llyfr ''Los Sueños'' ('Y Breuddwydion') gan y [[Sbaen]]wr Don [[Francisco de Quevedo]] (1580-1645).
 
Mae'r bardd yn gweld tair gweledigaeth fel mae'n modrwyo drwy'r byd (''Gweledigaeth cwrs y Byd''), drwy angau (''Gweledigaeth Angeu yn ei Frenhinllys isa'') a thrwy uffern (''Gweledigaeth Uffern''). Fe'i hebryngir gan angel ar y ddaear ac mewn uffern a chan Meistr Cwsc ym Mrenhinllys isa [[Angau]]. Mae'r gwaith yn darlunio taith pechadur o'r byd hwn drwy angau at [[Uffern]]. Llyfr [[bwrlesg]] a ysgrifennwyd mewn [[Cymraeg]] naturiol a choeth sy'n mynegi safbwynt brenhinwr ac [[Eglwys Loegr|eglwyswr]] ar gyflwr y wlad yn ei oes yw'r ''Gweledigaethau''. Mae'n dangos meistrolaeth yr awdur ar Gymraeg clasurol yn ogystal â Chymraeg llafar y cyfnod ar ei mwyaf rhywiog. Gweledigaeth o Lys Angau a geir yno, ac mae'n bosibl fod Wynne wedi bwriadu ail gyfrol ar Lys [[Paradwys]] yn olyniant iddo. Yn ogystal â disgrifiadau llawn dychymyg o Uffern a [[dychan]] deifiol, ceir fel gwrthgyferbyniad trawiadol ddarnau o ryddiaith swynol, yn arbennig yr agoriad enwog sy'n disgrifio'r wlad o gwmpas Harlech trwy sbienddrych yr awdur.