Gwynedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
→‎Economi: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 21:
Ceir [[economi]] cymysg yn y sir. Mae rhan bwysig o'r economi yn seiliedig ar [[twristiaeth|dwristiaeth]] gyda nifer o ymwelwyr yn cael eu denu gan y traethau niferus a'r mynyddoedd. Gorwedd rhan sylweddol o'r sir ym [[Parc Cenedlaethol Eryri|Mharc Cenedlaethol Eryri]], sy'n ymestyn o arfordir y gogledd i lawr i ardal [[Meirionnydd]] yn y de ac yn llawer ehangach na'r [[Eryri]] go iawn. Ond gwaith tymhorol yw twristiaeth ac mae hynny'n golygu diffyg gwaith yn y gaeaf. Problem arall gyda thwristiaeth yw'r alwad a greir am [[tŷ haf|dai haf]]. Mae hyn yn gwthio prisiau tai i fyny allan o gyrraedd pobl leol ac yn effeithio ar sefyllfa'r iaith [[Gymraeg]] yn yr ardaloedd gwledig.
 
Mae [[amaethyddiaeth]] yn llai pwysig nag yn y gorffennol, yn enwedig yn nhermau y nifer o bobl sy'n ennill eu bywiolaeth o'r tir, ond mae'n aros yn elfen bwysig.
 
Y pwysicaf o'r diwydiannau traddodiadol yw'r [[diwydiant llechi Cymru|diwydiant llechi]], ond canran isel o weithwyr sy'n ennill eu bywoliaeth yn y [[chwarel]]i erbyn heddiw.