Harri VII, brenin Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Dianc i Lydaw: Plouharnel
tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 17:
Roedd ei dad Edmwnd yn hanner brawd i frenin Lloegr, sef [[Harri VI, brenin Lloegr|Harri VI]] a bu Edmwnd (a'i frawd Siasbar) yn driw iddo tan ei ddydd olaf. Yn eironig, yng Nghymru y bu farw Edmwnd, wedi iddo gael ei ddanfon gan y brenin o'i gartref yn Llundain i roi trefn ar Dde Cymru, gan nad oedd llawer o'r bobl yn derbyn awdurdod Dug Efrog a'i gynrychiolydd sef [[William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469)]] yng Nghymru, i arglwyddiaethu drostynt. Dyma ddechrau'r cyfnod a elwir yn [[Rhyfel y Rhosynnau]], gyda'r brenin, Siasbar, Edmwnd - a'u tad Owain Tudur yn ochri gyda [[Lancastriaid]] a'r Dug Efrog ac eraill gyda'r [[Iorciaid]]. Fe'i carcharwyd am ychydig gan Herbert yng Nghastell Caerfyrddin, lle'r aeth yn wael; ni wyddus yn union beth a achosodd ei farwolaeth, ac mae'n bosibl mai cael ei wenwyno a wnaeth.
 
Canodd y beirdd am Edmwnd: 'yn frawd i'r brenin, nai i'r ''Dauphin'' a mab Owain', bu farw yn ddim ond 26 oed. Llai na hanner hynny oedd oedran ei ail-wraig [[Margaret o Anjou]], pan anwyd Harri: deuddeg oed. Ac ar ddiwrnod ei farwolaeth, ni wyddai Edmwnd fod yn ei chroth blentyn - Harri a chymerodd brawd Edmwnd, Siasbar, ofal ohono a'i ystâd enfawr. Yn dilyn buddugoliaeth yr Iorciaid ym [[Brwydr Mortimer's Cross|Mrwydr Mortimer's Cross]] gorseddwyd [[Edward VI, brenin Lloegr|Edward VI]] yn frenin a dihangodd Sisbar a mam Harri, Margaret, i'r [[Alban]], [[Ffrainc]], [[Llydaw]] a gwledydd eraill gan geisio annog ailfeddianu coron Lloegr i Harri VI.
 
Ar 1 Hydref 1456 bu farw Edmwnd; ar 28 Ionawr 1457, 4 mis yn ddiweddarach, ganwyd Harri yng Nhastell Penfro, gan adael ddeufis yn ddiweddarach yn ôl i'w cartref yn Llundain. Ond cafodd y plentyn Harri lonydd gan y brenin newydd, a rhoddwyd ef i'w fagu gan William Herbert yng Nghastell Penfro.
 
==Magwraeth==
Harri oedd unig blentyn Margaret. Yn ôl y croniclwr [[Elis Gruffydd]] ('Y Milwr o Galais') a sgwennodd yn yr [[16eg ganrif]], dywedwyd wrtho gan sawl hen berson mai enw canol Harri Tudur pan gafodd ei fedyddio oedd '''Owain''' ond gwrthwynebwyd hynny gan y fam, a bwysleisio mai enw Lancastraidd oedd ei angen.<ref>''Bosworth'' gan Chris Skidmore; Gwasg Phoenix (2013); tudalen 32.</ref>
 
Dywed un cofianydd cynnar, Bernard André, mai plentyn eitha gwan oedd Harri Tudur a oedd wastad yn llawn [[anhwylder]] o bob math. Dywedir iddo dderbyn addysg bersonol 'o'r radd flaenaf' gan rai megis Philip ap Howel, Edward Haseley (a ddaeth yn y man yn Ddeon Warwick), Andrew Scot (Athro prifysgol mewn Diwynyddiaeth ym [[Prifysgol Rhydychen|Mhrifysgol Rhydychen]], ac addysg filwrol oddi wrth Syr Hugh Johns, tirfeddiannwr lleol. ''"Ni welais i erioed blentyn mor gyflym am ddysgu, ac mor ddwfn ei allu"'' oedd barn Scot wrth André. Sylweddoddolodd lawer o'r beirdd yn yr adeg yma bwysigrwydd Harri i Gymru, gan annog Herbert i edrych ar ôl y 'wennol', a'i warchod yn ofalus.
 
==Dianc i Lydaw==