Helyntion Beca: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Aledwg (sgwrs | cyfraniadau)
tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 4:
[[Delwedd:Llythyr Beca National Archives ar OGL.jpg|bawd|Llythyr gan Beca at y Cwnstabliaid (heddweision) a cheidwaid y tollbyrth, Sir Gaerfyrddin ym 1842]]
[[Delwedd:Y Cenhadwr Americanaidd 02.PNG|bawd|Adroddiad yn ''Y Cenhadwr Americanaidd (gol [[Robert Everett]] yn sôn Rebecayddion ger [[Delaware]], [[Ohio]] yn 1843.]]
[[Gwrthryfel]] gwerinol yn erbyn y tollau drud a godwyd am deithio ar hyd y [[Ffordd dyrpeg|ffyrdd tyrpeg]] oedd '''Helyntion Beca''' (hefyd '''Becca'''), a barodd o [[1839]] hyd [[1844]].
 
Trawodd Beca gyntaf yn [[Efail-wen]] ar yr [[13 Mai]] [[1839]], gan falu'r dollborth yno. Fe wnaethpwyd yr un peth eto ar y [[6 Mehefin]] yn yr un flwyddyn ac eto ar yr [[17 Gorffennaf]]. Llosgwyd y tolldy y tro hwn. Ni ddarganfuwyd pwy oedd y troeseddwyr, gan fod y rhai a gymerodd ran yn y weithred wedi duo eu gwynebau a gwisgo dillad menywod. Gwelwyd dryllio dros gant o dollbyrth rhwng Ionawr [[1843]] a gwanwyn [[1844]] ledled [[Gorllewin Cymru|de-orllewin Cymru]]. Roedd yr helynt ar ei waethaf yn [[Sir Gaerfyrddin]]. Ar 6 Gorffennaf 1843, ymosododd oddeutu 200 o bobl ar Dollborth Bolgoed, [[Pontarddulais]]. Yr arweinydd oedd crydd lleol o'r enw Daniel Lewis. Fe'i bradychwyd, yn ôl yr hanes, ond osgôdd gael ei ddanfon i Awstralia gan nad oedd tystion ar gael. Ceir cofeb i'r digwyddiad yn y lleoliad hwn - ger Tafarn y Ffynnon heddiw.<ref>[http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/south_west/3846265.stm Gwefan Saesneg y BBC;] adalwyd 6 Gorffennaf 2015</ref>
Llinell 21:
* 6 Gorffennaf 1843: tollborth Bolgoed, [[Pontarddulais]]; ceir cofeb ger Tafarn y Ffynnon
* 20 Gorffennaf 1843: tollborth Rhyd Y Pandy, [[Treforys]]
* 7 Medi 1843: tollborth [[yr Hendy]],
 
Cafwyd ymosodiadau hefyd yn: Hwlffordd, Caerfyrddin, Aberteifi, Cydweli, y Tymbl, Llandysul, Pontarddulais a Chastellnewydd Emlyn.
 
==Achosion==
Un o achosion amlwg yr helynt oedd y tollbyrth eu hun, a weinyddwyd gan y Cwmnïau Tyrpeg newydd. Roedd rhaid talu tollau i deithio ar hyd y prif-ffyrdd hyn. Roedd ddeuddeg Cwmni yn sir Gaerfyrddin, pedwar yn [[Sir Benfro]], dau yn [[Sir Aberteifi]], dau yn [[Sir Faesyfed]], un yn [[Sir Frycheiniog]] a deuddeg ym [[Morgannwg]]. Roedd nifer uchel y Cwmnïau Tyrpeg yn yr ardal yn golygu bod rhaid i deithwyr talu tollau sawl gwaith (am bob cwmni) i'w gymharu â Lloegr lle nad oedd y fath gor-gystadlu. Roedd rhaid i'r ffermwyr talu tollau wrth yrru'u [[gwartheg]] a theithio yn ôl ac ymlaen i'r marchnad, ac wrth ôl calch fel gwrtaith am y pridd.
 
Nid yr unig rheswm dros yr helyntion oedd y tollbyrth. Roedd tuedd gan werin De-Orllewin Cymru i weinyddu cyfraith eu hun trwy'r traddodiad o'r [[Ceffyl Pren]]. Dyma arfer o siomi yn gyhoeddus aelod o'r gymuned sydd wedi achosi cerydd i'w gymdogion neu gydweithio a'r awdurdodau. Byddai dorf gyda'i wynebau'n ddu (fel wnaeth Merched Beca) yn cario ffigur ceffyl at ddrws y person, neu ffigur yn ei ddynwared (a weithiau llosgwyd), neu hyd yn oed y berson ei hun, gan ei fychanu. Yn ol yr hanesydd David Williams, "ymestyniad o arfer y Ceffyl Pren" oedd terfysgoedd Beca <ref>'The Rebecca Riots' gan D Williams, tud 56; Gwasg Prifysgol Cymru 1955.</ref>.
Llinell 52:
*Pat Molloy ''And they blessed Rebecca'', Gwasg Gomer, ISBN 0-86383-031-5
*Catrin Stevens, ''Terfysg Beca'' (Gwasg Gomer, 2007)
 
 
[[Categori:Helyntion Beca| ]]