Llawysgrifau Peniarth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 1:
Casgliad o [[Llawysgrifau Cymreig|lawysgrifau Cymreig]] [[Cymru'r Oesoedd Canol|canoloesol]] a gasglwyd yn wreiddiol gan Syr [[Robert Vaughan]] (1592 - 1667) o [[Hengwrt]], [[Meirionnydd]], ac a gafodd gartref ym mhlasdy [[Peniarth]], plwyf [[Llanegryn]], Meirionnydd yn y 19eg ganrif yw '''Llawysgrifau Peniarth'''. Mae'r casgliad yn cynnwys rhai o'r llawysgrifau hynaf a phwysicaf yn hanes [[llenyddiaeth Gymraeg]].
 
Gwerthwyd y casgliad gan William Wynne VII o Beniarth i Syr [[John Williams (casglwr llawysgrifau)|John Williams]] yn 1898. Pan gafwyd cynllun i sefydlu llyfrgell genedlaethol i Gymru addawodd Syr John y byddai'n cyflwyno ei gasgliad gwerthfawr, yn cynnwys Llawysgrifau Peniarth, iddi ar yr amod ei bod yn cael ei lleoli yn [[Aberystwyth]], ac felly y bu.
 
Mae'r casgliad yn cynnwys trysorau fel [[Llyfr Du Caerfyrddin]], [[Llyfr Taliesin]] a [[Llyfr Gwyn Rhydderch]] (sy'n cynnwys [[Pedair Cainc y Mabinogi]], [[Y Tair Rhamant]] a chwedlau eraill) a nifer o lawysgrifau hynafol eraill, yn cynnwys testunau cynnar o [[Cyfraith Hywel|Gyfraith Hywel]], gwaith nifer o [[Beirdd yr Uchelwyr|Feirdd yr Uchelwyr]]. Mae'r llawysgrifau mewn ieithoedd eraill yn cynnwys dwy lawysgrif Ladin o ''[[Historia Regum Britanniae]]'' [[Sieffre o Fynwy]] a thestun cynnar, darluniedig, o ''[[Canterbury Tales]]'' [[Geoffrey Chaucer]] a adnabyddir wrth yr enw ''Hengwrt Chaucer''.