Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 40:
==Agor y drysau digidol==
[[File:Llyfrgell Genedlaethol National Library of Wales 04.JPG|bawd|chwith|Dr Dafydd Tudur yn derbyn Tlws GLAM y Flwyddyn, Wicimedia DU, 2013 ar ran y Llyfrgell]]
Yn Ebrill 2012, gwnaed penderfyniad polisi blaenllaw iawn: nad oedd y Llyfrgell yn hawlio perchnogaeth yr hawlfraint mewn atgynhyrchiadau digidol. Golygai hyn fod yr hawliau sydd ynghlwm wrth gweithiau'n adlewyrchu statws hawlfraint y gwaith gwreiddiol (h.y. fod y gweithiau gwreiddiol sydd yn y parth cyhoeddus (e.e. lluniau ar Flickr) i barhau yn y parth cyhoeddus yn eu ffurf digidol. Mae'r llyfrgell wedi cymhwyso'r polisi hwn i brosiectau ers hynny gan gynnwys '[[DIGIDO]]', [[Prosiect Cylchgronau Cymru]]<ref name="Cylchgronau Cymru">[http://cylchgronaucymru.llgc.org.uk Cylchgronau Cymru]</ref> a 'Cymru 1914'. Mae'r Llyfrgell hefyd yn parhau i ddiweddaru gwybodaeth am hawliau prosiectau a gwbwlhawyd cyn 2012, sy'n waith aruthrol, oherwydd y cyfoeth o weithiau sydd yn y Llyfrgell. Mae prosiect Cylchgronau Cymru<ref>[http://cylchgronaucymru.llgc.org.uk name="Cylchgronau Cymru]<"/ref> yn cynnwys 50 o gyfnodolion digidol am Gymru, sydd bellach ar gael am ddim i bawb ac sy'n cynnwys: [[Y Cofiadur]], [[Y Fflam]] a'r cylchgrawn [[Heddiw (cylchgrawn)|Heddiw]].
 
Yn Chwefror 2013 [[:commons:Category:Images from the collection of the National Library of Wales|treialwyd 50 o ddelweddau]] o [[Mynwy|Fynwy]], sydd allan o hawlfraint. Y llun cyntaf a uwchlwythwyd oedd: [[:commons:File:The Vale of Tintern, from the Devil's Pulpit.jpg|Abaty Tintern o Bulpud y Diafol]]. Crewyd [[:commons:Template:NLW collection|templad i "ddal" y lluniau]] sy'n cyfieithu'n otomatig i nifer o ieithoedd.
 
Ym Mawrth 2013 partnerodd y Llyfrgell gyda Wikimedia'r Iseldiroedd, y DU, Ffrainc ac [[Europeana]], fel partner diwylliannol, gan eu cefnogi i greu offer ''toolset'' i uwchlwytho torfol delweddau a chlipiau sain o'r GLAMs (acronym am 'Galeriau, Llyfrgelloedd, Archifdai a Mwy') i Gomin Wicimedia. Hefyd yn 2013, enillodd y Llyfrgell wobr Wikimedia: GLAM y flwyddyn: a nodwyd mai'r Llyfrgell ydyw'r 'corff mwyaf ysbrydoledig yn y Deyrnasd Unedig, sydd hefyd wedi arbrofi gyda chyhoeddi delweddau'n rhydd, yn agored ac am ddim; a hefyd am eu gwaith yn datblygu offer uwchlwytho torfol.' Cydnabyddodd Wikimedia UK hefyd mai 'dyma'r corff sy'n fwyaf triw i nodau ac amcanion WMUK yng Nghymru.'
Llinell 60:
<gallery>
File:Jason Evans WiR at Llyfrgell Genedlaethol National Library of Wales 02.JPG|Jason Evans, Wicipediwr Preswyl y Llyfrgell Genedlaethol; Chwefror 2015
 
 
</gallery>