Llyn Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 4:
Saif y llyn islaw Craig y Llyn, gerllaw tarddle [[Afon Rhondda Fawr]], 368 medr uwch lefel y môr; mae ei arwynebedd yn 9.8 hectar (24 acer). Llyn naturiol ydyw, ond adeiladwyd argae i'w droi yn gronfa ddŵr tua dechrau'r [[20fed ganrif]].
 
Rhwng 1911 a 1913, yn ystod y gwaith o adeiladu'r argae, cafwyd hyd i amrywiaeth o arfau a chelfi; roedd y rhan fwyaf yn dyddio'n ôl i ran olaf Oes yr Efydd ond hefyd yn cynnwys y celfi haearn cynharaf i'w darganfod yng Nghymru, yn fwyaf arbennig: cleddyf haearn yn arddull [[Hallstatt]]. Roedd yno hefyd ben gwaywffon a chryman haearn. Roedd y celfi efydd yn cynnwys dau grochan a phennau bwyeill. Credir fod yr eitemau yma wedi eu gosod yn y llyn fel offrwm i'r duwiau, efallai tua 650 CC.
 
==Llyfryddiaeth==