Llyn Padarn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:LlynPadarn.jpg|bawd|Llyn Padarn, yn edrych tua Dolbadarn a [[Bwlch Llanberis]].]]
 
Llyn yng [[Gwynedd|Ngwynedd]] yw '''Llyn Padarn'''. Saif yn [[Eryri]], gyda llyn arall, [[Llyn Peris]] fymryn i'r de-ddwyrain. Mae'n 280 acer o arwynebedd, tua dwy filltir o hyd a 94 troedfedd yn y man dyfnaf. Saif tref [[Llanberis]] ar y lan ddeheuol a phentref [[Brynrefail]] lle mae [[Afon Rhythallt]] yn llifo allan o'r llyn. Wedi iddi lifo dan Bont Rhythallt yn [[Llanrug]], mae'r afon yma yn newid ei henw i [[Afon Seiont]] ac yn cyrraedd y môr yng [[Caernarfon|Nghaernarfon]].
 
Daw'r enw o sant [[Padarn]], a gelwir y tir rhwng y llyn yma a Llyn Peris yn [[Dolbadarn]]. Yma mae [[Castell Dolbadarn]] ar godiad tir rhwng y llynnoedd. Ar lan gogleddol y llyn mae [[Parc Gwledig Padarn]], ac mae [[Rheilffordd Padarn]] yn yn arwain ar hyd y lan ogleddol, yn cychwyn o'r Parc. Yn wreiddiol defnyddid y rheilffordd yma i gario llechi o [[Chwarel Dinorwig]] i'r [[Felinheli]]. Mae [[Amgueddfa Llechi Cymru]] yma hefyd, yn hen weithdai Chwarel Dinorwig yn y Gilfach Ddu.
Llinell 9:
==Llyfryddiaeth==
*Geraint Roberts, ''The lakes of Eryri'' (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1995). ISBN 0-863811-338-0
 
{{eginyn Gwynedd}}
 
[[Categori:Llynnoedd Gwynedd|Padarn]]
[[Categori:Llanberis]]
[[Categori:Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Ngwynedd]]
 
{{eginyn Gwynedd}}