Mochnant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Gweler hefyd: newidiadau man using AWB
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 3:
[[Cantref]] yn nheyrnas [[Teyrnas Powys|Powys]] yn yr Oesoedd Canol oedd '''Mochnant'''. Gorwedd y diriogaeth yn ardal [[Maldwyn]], sir [[Powys]], heddiw.
 
Ffiniai'r cantref â chantref [[Penllyn]], [[Edeirnion]], a [[Cynllaith|Chynllaith]] i'r gogledd, [[Mechain]] a [[Caereinion|Chaereinion]] i'r de, a chantref [[Cyfeiliog]] (cwmwd [[Mawddwy]]) i'r gorllewin. Gorweddai yng nghanol teyrnas Powys gyda llethrau'r [[Berwyn]] yn gefn iddo.
 
Enwir Mochnant yn chwedl [[Math fab Mathonwy]], yr olaf o [[Pedair Cainc y Mabinogi|Bedair Cainc y Mabinogi]], fel lle mae [[Gwydion]] yn aros gyda'r [[mochyn|moch]] hudol ar ei ffordd yn ôl i [[Teyrnas Gwynedd|Wynedd]] ar ôl eu cael trwy dwyll yn llys [[Pryderi]]. Ond mae'n bosibl taw'r gair [[Cymraeg Canol]] ''moch'' ('buan', 'boreuol') a geir yn yr enw Mochnant yn hytrach na'r anifeiliaid.