Mynydd Preseli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Preseli - geograph.org.uk - 67819.jpg|250px|bawd|Prif grib Mynydd Preseli. Mae'r garreg fawr ar y chwith yn gofeb i'r bardd [[Waldo Williams]].]]
[[Image:Preseli.jpg|250px|bawd|Carn Edward a Cerrig Lladron, Preseli]]
[[Mynydd]]oedd yng ngogledd [[Sir Benfro]] yn ne-orllewin [[Cymru]] yw '''Mynydd Preseli''', hefyd '''Mynydd Preselau''', '''Y Preseli''' neu '''Y Preselau'''. Maent yn rhan o [[Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro|Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro]], ac yn ymestyn o gyffiniau [[Abergwaun]] yn y gorllewin hyd ar ardal [[Crymych]] yn y dwyrain.
 
Y copa uchaf yw [[Foel Cwmcerwyn]] (536 medr). Copaon eraill yw [[Carn Ingli]], [[Foel Eryr]], [[Foel Feddau]], [[Frenni Fach]], [[Frenni Fawr]] a [[Foel Drygarn]]. Ceir nifer fawr o olion o gyfnodau cynhanesyddol yn y Preselau; y mwyaf adnabyddus efallai yw cromlech [[Pentre Ifan]]. Ceir nifer fawr o olion o [[Oes yr Efydd]] o gwmpas [[Carn Ingli]], a chredir fod yr ardal hon wedi bod o bwysigrwydd arbennig yn y cyfnod hwnnw. Credir bod y meini glesion sy'n ffurfio rhan o adeiladwaith [[Côr y Cewri]] wedi dod o ardal [[Carn Menyn]] (neu Carn Meini) yma. Ceir hefyd [[carnedd|garneddi]] o [[Oes yr Efydd]] a [[bryngaerau]] o [[Oes yr Haearn]], er enghraifft ar Foel Drygarn a Charn Ingli.
Llinell 7:
Ceir cyferiad at y Preselau yn chwedl ''[[Culhwch ac Olwen]]'', lle mae'r [[Twrch Trwyth]] yn glanio ym Mhorth Clais ar ôl anrheithio [[Iwerddon]], ac yna'n mynd i Preselau, gan ladd pedwar o wŷr [[Arthur]] yng Nghwm Cerwyn. Lleolir llawer o ddigwyddiadau ''[[Pwyll Pendefig Dyfed]]'' yn y Preselau hefyd, er enghraifft ar ddechrau'r hanes, mae Pwyll yn hela yng Nglyn Cuch.
 
Arferai'r [[Diwydiant llechi Cymru|diwydiant llechi]] fod yn bwysig yma, er nad oes yr un o'r chwareli yn parhau ar agor erbyn hyn.
 
Magwyd y bardd [[Waldo Williams]] yn yr ardal, ac mae 'Preseli' yn un o'i gerddi enwocaf, sy'n dechrau gyda'r cwpled cyfarwydd: