Ideoleg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 85 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q7257 (translate me)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{ideolegau}}
Casgliad neu system o [[cysyniad|gysyniadau]], [[syniad]]au a [[credo|chredoau]] yw '''ideoleg'''<ref>{{dyf GPC |gair=ideoleg |dyddiadcyrchiad=22 Mai 2016 }}</ref> neu '''ddelfrydeg'''.<ref>{{dyf GPC |gair=delfrydeg |dyddiadcyrchiad=22 Mai 2016 }}</ref> Bathwyd y term gan yr [[athroniaeth|athronydd]] o [[Ffrainc|Ffrancwr]] [[Antoine Destutt de Tracy]] yn hwyr [[18fed ganrif|y ddeunawfed ganrif]] i ddiffinio "[[gwyddoniaeth|gwyddor]] syniadau". Maent yn gysyniad unigryw i [[gwyddor gwleidyddiaeth|wleidyddiaeth]]; sonir am ideolegau economaidd, ond mae'r rhain ynghlwm wrth farnau a chredoau gwleidyddol a chymdeithasol, ac nid o reidrwydd [[damcaniaeth economaidd]].
 
Cyfuniad o syniadaeth ddisgrifiadol a normadol, neu [[damcaniaeth wleiddyddol|wleidyddeg]] a gwleidydda, yw ideoleg. Tair nodwedd sylfaenol sydd i'r ideoleg benodol: beirniadaeth ar y drefn sy'n bod, gweledigaeth o gymdeithas y dyfodol, a damcaniaeth o newid gwleidyddol. Amlinellir casgliad o farnau a syniadau, yn aml yn seiliedig ar egwyddorion a gwerthoedd personol a chymdeithasol, gan ysbrydoli gweithredu gwleidyddol er mwyn ennill amcanion i roi'r agenda [[delfryd|ddelfrydol]] ar waith.<ref name=Heywood>Andrew Heywood. ''Political Ideologies: An Introduction'' (Palgrave Macmillan, 2003).</ref>
 
Nid yw pawb yn gytûn ar ddiffiniad y gair ideoleg a pha syniadau ac agweddau gwleidyddol sy'n dod o dan y label hon. Er enghraifft, dadleua nifer o geidwadwyr [[pragmatiaeth|pragmataidd]] taw tuedd neu agwedd meddwl yw [[ceidwadaeth]], ac nid ideoleg.<ref name=Heywood/>
 
== Hanes y cysyniad ==
Daw'r cysyniad modern o ideoleg o waith [[Karl Marx]], Yn ôl Marx, cyfundrefnau ffug o gysyniadau gwleidyddol, [[cymdeithaseg|cymdeithasol]] a [[moeseg|moesol]] a ddyfeisir a chynhalir gan y [[dosbarth llywodraethol|dosbarthau llywodraethol]] am hunan-les yw ideolegau, e.e. bydd [[hierarchaeth]]au [[crefydd]]ol yn cefnogi cyfundrefnau bydd yn cadw'r arweinwyr yn gyfoethog.
 
Yn [[20fed ganrif|yr ugeinfed ganrif]] datblygodd nodwedd eithafol mewn ideolegau. Mae eu hymlynwyr yn credu bod eu system o theorïau gwleidyddol yn gwbwl anghytûn ag ideolegau eraill – y brif enghraifft o hyn yw [[comiwnyddiaeth]] a [[ffasgiaeth]]. Tuedda cysyniadau gwleidyddol eraill, megis [[sosialaeth]], [[democratiaeth]], a [[ceidwadaeth|cheidwadaeth]], i fod yn llai gyfyngedig; mae eu dilynwyr yn anghytuno ar rai faterion ond yn cytuno ar eraill.
 
Datblygodd ideolegau [[neilltuoldeb|neilltuol]] yn sgil gwrthdaro penben [[yr Ail Ryfel Byd]] a'r [[Rhyfel Oer]]. Mudiadau megis [[ffeministiaeth]], [[amgylcheddaeth]], [[ffwndamentaliaeth grefyddol]] ac [[amlddiwylliannaeth]] sy'n diffinio'r byd ôl-ddiwydiannol, ôl-gomiwnyddol yn oes [[globaleiddio]].<ref name=Heywood/>
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Ideolegau gwleidyddol| ]]