Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Morfuddnia (sgwrs | cyfraniadau)
Ychwanegu enw ei fam
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
 
Llinell 1:
Etifedd teyrnas [[Powys Wenwynwyn]] ac un o arglwyddi'r gororau oedd '''Owain ap Gruffydd ap Gwenwynwyn''' neu '''Owen de la Pole''' (tua [[1257]] - tua [[1293]]).
 
Roedd Owain yn fab i [[Gruffudd ap Gwenwynwyn]], tywysgog Powys Wenwynwyn, a'i wraig [[Hawys Lestrange]]. Ganed ef yn Lloegr wedi i'w dad gael ei yrru o'i deyrnas gan [[Llywelyn ap Gruffudd]] yn [[1257]]. Efallai tua'r adeg yma, mabwysiadodd y teulu yn cyfenw ''de la Pole'', o "Poole", hen enw [[Y Trallwng]] ("Welshpool" yn Saesneg yn awr).
 
Yn [[1263]], dan delerau [[Cytundeb Trefaldwyn]], dychwelwyd y rhan fwyaf o'r tiroedd i dad Owain, ar yr amod ei fod yn gwrogi i Lywelyn. Fodd bynnag, yn [[1274]] roedd Owain a'i dad mewn cynllwyn i lofruddio Llywelyn, a ffoesant i Loegr eto. Dan delerau [[Cytundeb Aberconwy]], dychwelwyd ei diroedd i Gruffudd ap Gwenwynwyn. Yn 1284, wedi marwolaeth Llywelyn, ymddengys i'r teulu ildio eu hawl i dywysogaeth Powys Wenwynwyn i [[Edward I, brenin Lloegr]], a'i derbyn yn ôl ganddo fel un o arglwyddiaethau'r gororau.