Pen Llystyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 1:
Safle [[Caerau Rhufeinig Cymru|caer Rufeinig]] ger [[Bryncir]], [[Gwynedd]], yw '''Pen Llystyn'''. Caer atodol oedd hi, yn gysylltiedig â chaer fawr [[Segontium]] i'r gogledd (ger [[Caernarfon]]), pencadlys y [[Rhufeiniaid]] yng ngogledd Cymru.
 
Roedd darganfod y gaer, a ddaeth i'r golwg trwy gloddio mewn pwll grafel ger y pentref, yn fodd i gadarnhau cwrs y [[ffordd Rufeinig]] a gysylltai Segontiwm â chaer [[Tomen y Mur]] yn [[Ardudwy]].
 
Caer bren oedd hi, tua 1.6 hectar, a godwyd tua'r flwyddyn [[80]] OC ar gyfer garsiwn cymysg o filwyr troed a marchogion yn ystod ymgyrch y [[Rhufeiniaid]] i oresgyn gogledd Cymru. Ond ymddengys iddi gael ei rhoi heibio yn fuan ar ôl hynny ac i gaer fechan - gwarchodfa yn hytrach na chaer go iawn - gael ei chodi yno yn ddiweddarach, ond ni pharhaodd honno am hir chwaith.
 
Efallai fod y gaer Rufeinig ym Mhen Llystyn yn gorwedd yn nhiriogaeth llwyth y [[Gangani]], llwyth [[Celtiaid|Celtaidd]] [[Llŷn]], efallai ar y ffin rhyngddynt hwy a'u cymdogion yr [[Ordoficiaid]] i'r dwyrain. Mae olion y muriau i'w gweld er bod y chwarel raean yno wedi difetha'r tu mewn.
 
Ym mur yr ardd yn ffermdy Llystyn Gwyn, ychydig i'r gogledd o'r gaer mae carreg o'r [[6ed ganrif]] gydag arysgrif mewn [[Lladin]] ac [[Ogam]]. Yn y Lladin mae'n darllen ICORI(X) FILIUS / POTENT / INI (Icorix, mab Potentinus). Mae cerrig dwyieithog, Lladin ac Ogam, yn gyffredin yn ne-orllewin [[Cymru]], ond dyma'r unig un yn y gogledd-orllewin.