Pen-y-bont-fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd o'r eglwys
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 4:
Pentref a [[Cymuned (llywodraeth leol)|chymuned]] ar lawr gwastad [[Dyffryn Tanat]] ym [[Powys|Mhowys]], yw '''Pen-y-bont-fawr''', weithiau '''Penybontfawr''' (yr hen enw: "Bont Fawr")<ref>[http://www.cpat.org.uk/projects/longer/histland/tanat/1020.htm Gwefan CPAT;] adalwyd 26 Medi 2014.</ref>. Saif ar lan [[Afon Tanad]], i'r gogledd-orllewin o bentref [[Llanfyllin]] ar y ffordd B4396. Brodorion o Ben-y-bont-fawr oedd [[Nansi Richards]] (Telynores Maldwyn) a [[Robert Ellis (Cynddelw)]].
 
Yn ogystal â phentref Pen-y-bont-fawr, mae'r gymuned yn cynnwys pentref [[Hirnant]], prif bentref yr ardal yn wreiddiol. Roedd y boblogaeth yn [[2011]] yn 440.
 
Codwyd Eglwys Sant Tomos ar gyrion y pentref yng nghanol y 19eg ganrif, ac mae'r pentref cyfan yn dyddio o'r un ganrif. Tyfodd o ganlyniad i groesffordd bwysig: y lôn o Orllewin Cymru i [[Croesoswallt|Groesoswallt]] yn nadreddu o'r gorllewin i'r dwyrain, ac yn ei groesodi: y ffordd o'r [[Bala]] i'r [[Amwythig]]. Fodd bynnag, ceir nifer o ffermydd hynafol iawn yn yr ardal, gan gynnwys: [[Peniarth-uchaf]] gyda'i nenfforch o'r 15fed ganrif neu ffermdy Penybont ei hun, sy'n dyddio'n ôl i'r 17eg ganrif. Codwyd yr eglwys leol yn 1855.