Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Pen-y-bryn, Abergwyngregyn"

Lleihawyd o 2 feit ,  6 blynedd yn ôl
tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
No edit summary
(tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB)
}}
 
[[Maenordy]] deulawr gyda rhan ohono'n dyddio'n ôl i gychwyn y 12fed ganrif ydy '''Pen-y-bryn''' neu '''Pen y Bryn''' (ac yn anghywir: '''Garth Celyn'''), tua 200 metr o [[Abergwyngregyn]], [[Gwynedd]] a thua 5 milltir i'r dwyrain o [[bangor|Fangor]]; saif ar fryn coediog sy'n edrych dros y pentref ac [[Afon Menai]]. Yr enw cyfoes am y tŷ yw '''Pen y Bryn'''. Fe'i gwnaed o garreg leol a tho llechen ar wahanol adegau, ac ar chwe chyfnod gwahanol. Mae ganddo dŵr pedair llawr anghyffredin a gysylltir gan rai gyda [[Llywelyn Fawr]] a [[Y Dywysoges Siwan|Siwan]]. Cyfeirnod OS: SH653726. Ceir dogfen sy'n dyddion ôl i 1553 am breswylydd o'r enw Rhys Thomas a'i wraig Jane yn prynnu'r tŷ a'r tiroedd o'i amgylch pan oedd wedi mynd a'i ben iddo; o'r herwydd mae dyddio carbon yn rhoi dyddiadau ar ôl 1553.
 
Yn hanesyddol, saif mewn safle strategol bwysig, lle mae'r hen ffordd o'r dwyrain dros [[Bwlch y Ddeufaen|Fwlch y Ddeufaen]] yn disgyn at arfordir Afon Menai a'r fferi drosodd i [[Llanfaes|Lanfaes]] ar Ynys Môn.
 
==Dyddio Pen y Bryn==
Ceir cofnod fod adeilad - rhywle ar dir Pen y Bryn - wedi ei godi rhwng 1303-1306, cofnodir y manylion a bod gwith eitha trwm a oedd yn cynnwys cludo cerrig wedi'u siapio a [[calch|chalch]] i wnued mortar. Does dim olion o gerrig mawr ar y safle arall - safle'r Mŵd, a chredir fod y safle yn y fan honno braidd yn fach i lys eitha mawr.<ref>A Brief Report on Pen y Bryn and Aber, Gwynedd. Paul Martin Remfry. Castle Studies Research & Publishing Astudiaethau Castell Ymchwil A Cyhoeddi. 2012. tud 110-112. [http://www.castles99.ukprint.com/PenyBryn.pdf accessed 5th November 2012]</ref> Gwyddys hefyd i Rys a Jane Thomas fyw yma yn 1553, gan ei brynnu oddi wrth Coron Lloegr. Mae'r pren yn nho'r prif dŷ wedi'u dyddio i rhwng 1619 a 1624.<ref>[http://www.coflein.gov.uk/en/site/32/details/PEN-Y-BRYN%2C+ABER/ Main range tree-ring dated 1619-24. Tree-ring dating commissioned by the North-west Wales Dendrochronological Project in association with RCAHMW, and reported in Vernacular Architecture 41 (2010), tud. 114: ABER, Pen-y-bryn (Garth Celyn) (SH 6582 7273) Torrwyd y coed rhwng 1619–24.] Gwefan Coflein</ref> Gwyddys hefyd fod y tŷ wedi'i adeiladu ar chwe chyfnod a bod hanes hir i'r tŷ cyn iddo gael to newydd tua 1620.<ref>''A Brief Report on Pen y Bryn and Aber, Gwynedd. Paul Martin Remfry. Castle Studies Research & Publishing'' Astudiaethau Castell Ymchwil A Cyhoeddi. 2012. tud 6. http://www.castles99.ukprint.com/PenyBryn.pdf accessed 5th November 2012</ref> Codwyd y tŵr ar ôl gweddill y tŷ a chafwyd gryn ychwanegiadau yn y 18fed ganrif.
 
==Llys Tywysogion Gwynedd yn Aber?==
452,433

golygiad