Phylip Siôn Phylip: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎Phylipiaid Ardudwy: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 6:
==Phylipiaid Ardudwy==
{{prif|Phylipiaid Ardudwy}}
Roedd Phylip Siôn yn fab i'r bardd [[Siôn Phylip]] ac yn frawd i fardd arall yn y teulu, sef [[Gruffudd Phylip]], a ystyrir yn un o'r clerwyr olaf. Dim ond pedawr o'i gerddi sydd ar glawr heddiw, yn cynnwys [[cywydd]] [[marwnad]] i Morys Wyn (Maurice Wynne) o'r Glyn (Hydref, 1673). Roedd cyfnod blodeuo'r teulu'n ymestyn o 1543, dyddiad geni Siôn Phylip, hyd at 1678, sef y flwyddyn y profwyd ewyllys Phylip Siôn Phylip ei fab.
 
Redd y brodyr Siôn a Rhisiart, a'r brodyr Gruffydd a Phylip Siôn, yn canu yn y mesurau caeth, gan mwyaf. Gwyddem hefyd drwy eu canu mai clerigwyr oedd Siôn, Rhisiart a Gruffydd. Yn y mesurau rhydd y canodd William Phylip gan mwyaf, ac nid oedd yn clera. Canodd Siôn, a'i fab Gruffydd ar ei ôl, lawer i Fychaniaid [[Corsygedol]], ac yr oedd Rhisiart yn fardd teulu Fychaniaid [[Nannau]]. Ond nid i deuluoedd [[Sir Feirionnydd]] yn unig y canai'r tri bardd. Bu i bob un o'r tri athro barddol a ‘graddiodd’ Siôn yn ail eisteddfod Caerwys, 1568; yr oeddent hefyd yn achyddwyr da. Yr oeddynt ymhlith y clerwyr diwethaf yng Nghymru a phan fu Gruffydd farw yn 1666 fe'i galwyd ‘y diweddaf o'r hen feirdd.’