Presaddfed (siambr gladdu): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Presaddfed.jpg|bawd|de|250px|Siambr gladdu Presaddfed.]]
Mae '''Presaddfed''' yn [[siambr gladdu]] o'r cyfnod [[Neolithig]] gerllaw [[Bodedern]] ar [[Ynys Môn]]. Saif mewn cae heb fod ymhell o [[Llyn Llywenan|Lyn Llywenan]].
 
Mae dwy siambr gladdu, rhyw 1.5 medr oddi wrth ei gilydd. Erbyn hyn mae'r siambr ogleddol yn adfeilion, ond mae meini'r siambr ddeheuol yn parhau yn eu lle. Credir mai ei ffurf wreiddiol oedd dwy siambr gladdu gaeedig wedi eu gorchuddio gan un twmpath, fel yn siambr gladdu [[Trefignath]], ond mae'r twmpath pridd fu o gwmpas y siambrau wedi hen ddiflannu. Mae traddodiad lleol i deulu oedd wedi cael eu troi o'u cartref fyw yn y siambr ddeheuol am gyfnod yn [[1801]].
 
Gellir cyrraedd at y siambr gladdu trwy ddilyn y ffordd B5109 o Fodedern, ac yna troi i'r chwith ar ôl rhyw hanner milltir. Mae lle i adael car wrth ochr y ffordd a llwybr cyhoeddus yn arwain at y siambr.