Prestatyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 23:
}}
:''Erthygl am y dref yw hon. Am y cwmwd canoloesol o'r un enw gweler [[Prestatyn (cwmwd)]].''
Mae '''Prestatyn''' yn dref ar arfordir gogleddol [[Sir Ddinbych]], gogledd-ddwyrain [[Cymru]]. Cyn ail-drefnu llywodraeth leol ym [[1974]], roedd hi'n rhan o [[Sir y Fflint]]. Mae gan y dref orsaf ar [[Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru|Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru]]. Mae [[Llwybr y Gogledd]] yn cychwyn/gorffen yn y dref.
 
Lleolir Prestatyn tua 4 milltir i'r dwyrain o'r [[Rhyl]] wrth droed y cyntaf o [[Bryniau Clwyd|Fryniau Clwyd]]. Mae'r pentrefi cyfagos yn cynnwys [[Talacre]] a'r [[Gronant]] i'r dwyrain ac [[Allt Melyd]] a [[Diserth]] i'r de. Mae Caerdydd 206.3 [[cilometr|km]] i ffwrdd o Prestatyn ac mae Llundain yn 301.7 km. Y ddinas agosaf ydy [[Lerpwl]] sy'n 32.2 km i ffwrdd.
Llinell 32:
Ceir olion "ffatri" bwyeill carreg o [[Oes Newydd y Cerrig]] ar lethrau gorllewinol Cwm Graiglwyd, i'r dwyrain o gopa'r [[Penmaen-mawr]]. Ceir tystiolaeth fod bwyeill gwenithfaen o'r Graiglwyd yn cael eu allforio ar raddfa eang 5,000 o flynyddoedd yn ôl; mae enghreifftiau wedi'u darganfod mor bell i ffwrdd ag arfordir de Lloegr. Credir eu bod yn cael eu cludo i safle ger Prestatyn i gael eu gweithio cyn eu hallforio.
Bu'r [[Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|Rhufeiniaid]] yn weithgar yn ardal Prestatyn. Roedd ganddynt wersyll yno ar gyfer mwyncloddio am [[plwm|blwm]]. Gellir gweld rhai gwrthrychau o'r cyfnod Rhufeinig yn y llyfrgell leol. Roedd [[Clawdd Offa]] yn cychwyn ger safle Prestatyn, ond er bod [[Llwybr Clawdd Offa]] yn cychywn/gorffen yno nid oes llawer o'r clawdd ei hun i'w weld.
 
Bu'r llecyn ym meddiant [[Mercia]] am gyfnod yn yr [[Oesoedd Canol Cynnar]], ac mae'r enw Prestatyn ("Tref yr Offeiriad") yn dyddio o'r dyddiau hynny. Yn yr Oesoedd Canol rhoddodd ei enw i gwmwd [[Prestatyn (cwmwd)|Prestatyn]], rhan o gantref [[Tegeingl]]. Codwyd [[Castell Prestatyn]] gan un o arglwyddi Normanaidd [[y Mers]] yn y 12fed ganrif ond cafodd ei gipio a'i ddinistrio gan [[Owain Gwynedd]].