Priordy Allteuryn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→Llyfryddiaeth: newidiadau man using AWB |
|||
Llinell 1:
Priordy [[Urdd Sant Bened|Benedictaidd]] yn [[Allteuryn]] ger [[Casnewydd]] oedd '''Priordy Allteuryn'''.
Cipiwyd yr ardal oddi wrth Owain Wan gan Robert de Chandos, a sefydlodd y priordy yma ychydig cyn [[1113]]. Roedd de Chandos yn frodor o ardal [[Le Bec-Hellouin|Bec]] yn [[Normandi]], a rhoddodd y priordy i [[Abaty Bec]]. Rhoddwyd tiroedd sylweddol yng [[Gwlad yr Haf|Ngwlad yr Haf]] i'r priordy.
Yn [[1291]], amcangyfrifwyd gwerth y priordy fel £171, y cyfoethocaf o briordai Benedictaidd Cymru, yn berchen ar 1300 erw o dir, a chyda tua 25 mynach yn y cyfnod yma. Erbyn [[1297]], roedd y nifer wedi gostwng i bymtheg.
Pan waethygodd y berthynas rhwng Lloegr a Ffrainc, dioddefodd y priordy oherwydd ei fod yn eiddo i abaty Ffrengig. Yn [[1441]] rhoddwyd y priordy i Abaty [[Tewkesbury]] yn Lloegr, a gyrrwyd yr wyth mynach yno ymaith. Yn [[1467]] rhoddwyd ef i Eton, ond nid oedd mynachod yno erbyn hynny. Nid oes gweddillion i'w gweld ar y safle bellach.
|