Sarn Helen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 2 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q3399924 (translate me)
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 1:
:''Am y gân o'r un enw gan y [[Super Furry Animals]], gweler [[Mwng (albwm)|Mwng]]''.
 
Defnyddir yr enw '''Sarn Helen''', neu weithiau '''Sarn Elen''' am y [[Ffyrdd Rhufeinig Cymru|ffordd Rufeinig]] oedd yn rhedeg ar hyd ochr orllewinol [[Cymru]] o gaer ''Canovium'' ([[Caerhun]]) yn y gogledd hyd gaer a thref ''Maridunum'' ([[Caerfyrddin]]) yn y de. Credir fod yr enw yn dod o enw [[Elen Luyddog]], gwraig [[Macsen Wledig]] yn ôl y chwedl. Mae'r ffordd o Gaerhun i Gaerfyrddin tua 160 milltir o hyd.
 
[[Delwedd:Sarn Helen Roman road - geograph.org.uk - 197161.jpg|270px|bawd|Sarn Helen ger Dolwyddelan.]]
Nid oes olion i'w gweld o ran gyntaf y ffordd ar ôl gadael Caerhun, ond credir ei bod yn dilyn glan orllewinol [[Afon Conwy]] cyn belled a [[Trefriw]], lle mae'n rhannu. Mae'r brif fforch yn arwain dros y bryniau i [[Betws y Coed]]. tra mae'r llall yn arwain ar gaer fechan [[Caer Llugwy]]. Gellir gweld rhai olion o'r brif ffordd wedi iddi rydio [[Afon Llugwy]], yn dringo dros y bryniau tua [[Dolwyddelan]]. Mae'n rhedeg ar hyd [[Cwm Penamnen]] a heibio rhan uchaf [[Cwm Penmachno]]. Gerllaw [[Ffestiniog]] mae'r ffordd i'w gweld yn eglur am dros ddwy filltir wrth arwain tuag at gaer [[Tomen y Mur]].
 
Credir ei bod wedi dilyn llinell y ffordd bresennol heibio [[Trawsfynydd]]. Mae'n debygol ei bod yn pasio'n agos i safle'r gar fechan yn y [[Brithdir]], ger [[Dolgellau]], sy'n sefyll ar y ffordd Rufeinig i/o [[Caer Gai|Gaer Gai]], ger [[Llyn Tegid]], a [[Caer|Chaer]]. Er nad oes olion, credir ei bod wedi cadw at ochr ddwyreiniol [[Cadair Idris]] nes cyrraedd caer fechan [[Pennal]]. Efallai fod rhan o'r lein bach rhwng [[Aberllefenni]] a Maespoeth yn dilyn cwrs y ffordd Rufeinig.
 
Nid oes sicrwydd lle'n union yr oedd cwrs y ffordd i'r de o Bennal, ond gellir gweld rhan ohoni ger pentref [[Lledrod]] yn [[Sir Aberteifi]], ar ei ffordd tua'r gaer yn [[Caer Llanio|Llanio]]. Yn [[Llanfair Clydogau]] mae'n fforchio, gydag un fforch yn arwain i'r dwyrain heibio [[Llanymddyfri]] a [[Dolaucothi]] i ''Nidum'' ([[Castell Nedd]]), a'r llall yn mynd yn ei blaen i gyfeiriad Caerfyrddin.
 
==Caerau ar Sarn Helen==