Susan Elan Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 15:
Daw Susan Elan Jones o [[Rhosllannerchrugog|Rosllannerchrugog]] yn wreiddiol, ac mae'n byw ar hyn o bryd ym [[Pentre Bychan|Mhentre Bychan]] gerllaw. Astudiodd ym [[Prifysgol Bryste|Mhrifysgol Bryste]] ac ym [[Prifysgol Caerdydd|Mhrifysgol Caerdydd]]. Bu'n gweithio fel athrawes Saesneg yn [[Siapan]] am gyfnod ar ôl graddio, ac yna bu'n gweithio i elusennau am bymtheg mlynedd cyn cael ei hethol yn Aelod Seneddol.
 
Ar hyn o bryd mae hi'n [[Ysgrifennydd Seneddol]] i [[Harriet Harman|Harriet Harman AS]]. Mae'n aelod o'r [[Pwyllgor Materion Cymreig]] ac yn weithgar mewn grwpiau trawsbleidiol ar banelu coed, hen reilffyrdd, a dyfrffyrdd.
 
Mae'n siaradwraig Gymraeg ac yn ymgyrchydd dros [[y Gymraeg]]; yn ystod ei [[araith gyntaf|haraith gyntaf]] yn [[Tŷ'r Cyffredin|Nhŷ'r Cyffredin]] rhoddodd beth o hanes yr iaith i'w chyd-aelodau gan grybwyll y [[Welsh Not]]. Wrth ymhyfrydu yn y ffaith ei bod wedi gallu tyngu llw yn Gymraeg wrth ymuno â'r Senedd, talodd deyrnged i rai (gan gynnwys ei phennaeth pan oedd yn yr ysgol, Mrs Mair Miles Thomas) sydd wedi ymladd er mwyn sicrhau hawliau sifil i siaradwyr Cymraeg.<ref>[http://www.theyworkforyou.com/debates/?id=2010-06-09f.345.0&s=susan+elan+jones#g376.0 3.11pm, Susan Elan Jones], TheyWorkForYou.com</ref>