Tiger Bay: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rotlink (sgwrs | cyfraniadau)
B fixing dead links
tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Cardiff Docks.jpg|270px|bawd|Tiger Bay: llun o ddociau Caerdydd dros gan mlynedd yn ôl.]]
:''Erthygl am yr ardal hanesyddol yw hon. Gweler hefyd [[Tiger Bay (gwahaniaethu)]].''
'''Tiger Bay''' (Bae Teigr) oedd yr enw hanesyddol am yr ardal o gwmpas porthladd [[Caerdydd]], [[Cymru]], yn cynnwys [[Tre-Biwt]] (''Butetown''). Ar un adeg hwn oedd un o borthladdoedd mwyaf a phrysuraf y byd. Ar ôl cyfnod hir o ddirywiad, mae'r ardal wedi cael ei hadnewyddu ac yn cael ei hadnabod fel [[Bae Caerdydd]]. Ond mae llawer o bobol leol yn dal i'w alw yn Tiger Bay o hyd (ni fagodd enw Cymraeg).
 
==Hanes==
Chwaraeodd datblygiad Dociau Caerdydd ran bwysig yn hanes datblygu dinas Caerdydd ei hun a dyfodd o fod yn dref arfordirol fechan i fod yn ddinas fwyaf Cymru a'i phrifddinas. Trwy'r dociau hyn yr allforwyd rhan helaeth [[glo]] [[Cymoedd De Cymru|Cymoedd y De]] i weddill y byd, ac ar un adeg porthladd Caerdydd oedd un o'r prysuraf yn y byd gyda 10,700,000 tunnell o lo yn cael ei allforio ohono erbyn 1913.
 
Tyfodd cymuned unigryw o gwmpas ardal y dociau; daeth gweithwyr y dociau a morwyr o bob rhan o'r byd i ymsefydlu yno a daaethpwyd i'w adnabod fel 'Tiger Bay' oherwydd y llifoedd cryf yn y dŵr rhwng y dociau ac [[Afon Hafren]].