Tuduriaid Penmynydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Cefndryd Owain Glyn Dŵr, a'u disgynyddion: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 19:
==Cefndryd Owain Glyn Dŵr, a'u disgynyddion==
 
Yn nechrau'r [[15fed ganrif]], roedd brodyr Gronw Fychan, [[Rhys ap Tudur]], [[Gwilym ap Tudur]] a [[Maredudd ap Tudur]], yn bleidwyr blaenllaw i [[Owain Glyndŵr]]. Oherwydd hyn collodd y teulu y rhan fwyaf o'u tiroedd. Roedd Gronw Fychan ei hun wedi marw cyn dechrau gwrthryfel Glyndŵr, felly dychwelwyd cyfran o diroedd y teulu i'w ddigynyddion ef yn ddiweddarach.
 
Aeth mab Maredudd, Owain, i Lundain, lle newidiodd ei enw o Owain ap Maredudd i [[Owain Tudur]] (''Owen Tudor''). Syrthiodd Catrin o Valois, gweddw [[Harri V, brenin Lloegr]] mewn cariad ag ef, ac mae'n debyg iddynt briodi, er nad oes prawf o hyn. Cawsant bum plentyn, yn cynnwys [[Edmwnd Tudur]] a [[Siasbar Tudur]]. Daeth mab Edmwnd, Harri Tudur, yn frenin Lloegr fel [[Harri VII, brenin Lloegr|Harri VII]].