Albert Jenkins (Rygbi'r Undeb): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 1:
Roedd '''Albert Edward Jenkins''' ([[11 Mawrth]], [[1895]] - [[7 Hydref]], [[1953]]) yn chwaraewr [[Rygbi'r undeb|rygbi]] a fu'n chware i Glwb Rygbi Llanelli ac yn rhyngwladol dros [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru|Gymru]] rhwng 1919 a 1928<ref>[http://yba.llgc.org.uk/cy/c4-JENK-EDW-1895.html Y Bywgraffiadur JENKINS, ALBERT EDWARD ( 1895 - 1953 ), adalwyd 22 Ebrill 2016]</ref>. Bu Jenkins yn un o'r cefnwyr gorau i chware dros [[Clwb Rygbi Llanelli|Lanelli]] gan gael ei gymharu ag arwyr diweddarach y Sgarlets megis [[Lewis Jones]] a [[Phil Bennett]]. Roedd Jenkins yn daclwr cryf ac yn rhedwr hynod o gyflym o ddechrau stond. Yr oedd hefyd yn giciwr ardderchog gyda'r naill ai droed a'r llall a gallai ergydio'r bêl dros hanner hyd y cae.
 
==Bywyd Personol==
 
Ganwyd Jenkins yn [[Llanelli]] ym 1895 yn un o 7 o blant William Jenkins, gweithiwr yn y dociau, a Margaret ei wraig <ref>Yr Archif Genedlaethol, Cyfrifiad 1911 cyfeirnod RG14/32862 RG78PN1876 RD596 SD3 ED17 SN30; 28 Bryn Road Llanelly</ref>. Bu'n gweithio yn y gwaith tunplat ac yn y dociau; gwrthododd sawl cais i droi at [[rygbi'r gynghrair]] fel chwaraewr proffesiynol. Ym 1917 Priododd a Annie Sophia Rosser (1895-1945), bu iddynt 3 o blant, ond bu farw un yn ei fabandod.<ref> Bedd y teulu ar 26:Munud o ''Yr Wythnos - Albert Jenkins'' [https://www.youtube.com/watch?v=iInlRNviEJE] adalwyd 22 Mai 2016</ref>
 
==Gyrfa Rygbi==
 
Dechreuodd Jenkins i chware rygbi gyda thîm o'r enw ''The Sand Lads'' tua 1909; tîm ieuenctid yn ardal Llanelli a oedd yn chwarae eu gemau ar y traeth ar faes oedd wedi ei farcio gyda llinellau ar y tywod. Ar ddechrau'r [[Y Rhyfel Byd Cyntaf|Rhyfel Byd Cyntaf]] ymunodd Jenkins a Chatrawd y Traed Milwyr Cymreig<ref>[http://www.militarian.com/threads/albert-jenkins-rugby-player.8693/ Albert Jenkins : Rugby Player] adalwyd 22 Mai 2016</ref>, gan chware ar ran tîm ei gatrawd. <ref> 3:10 Munud o ''Yr Wythnos - Albert Jenkins'' [https://www.youtube.com/watch?v=iInlRNviEJE] adalwyd 22 Mai 2016</ref>. Wedi dychwelyd o'r Rhyfel ym 1919 ymunodd a thîm hyn Llanelli, gan ddod yn arwr i'r clwb. Chwaraeodd dros Lanelli yn erbyn [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Seland Newydd|Seland Newydd]] ddwywaith gan golli ym 1924 ond gan eu curo 3-0 ym 1926.
 
===Gyrfa ryngwladol===
 
Bu i Jenkins cynrychioli ei wlad ar 14 achlysur, gan ennill ei gap cyntaf yn erbyn Lloegr ar 14, Ionawr 1920. Ei gêm gorau oedd yr un yn erbyn yr Iwerddon ym 1920 lle fu'n gyfrifol am greu tri chyfle i'w cyd chwaraewr Bryn Williams i sgorio casiauceisiadau, sgorio cais ei hun, cicio dau drosiad a chicio gôl adlam. Bu'n gapten ar y tîm cenedlaethol ar ddau achlysur.<ref name="Smith467">Smith (1980), pg 467.</ref>
* {{ru|ENG}} 1920, 1923
* {{ru|FRA}} 1920, 1921, 1922, 1923