Western Mail: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎Hanes: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 27:
Yn hanesyddol, yr oedd cysylltiad cryf rhwng y ''Western Mail'' a'i berchnogion, meistri'r [[diwydiant glo]] a [[diwydiant haearn|haearn]] yn ne Cymru. Arweiniai hyn at agwedd lai na diduedd tuag at anghydfod diwydiannol yn y diwydiannau hynny, yn arbennig yn achos streiciau mawr y glowyr, agwedd a gofir hyd heddiw gan rai. Yn ogystal mae wedi dilyn gogwydd digon [[Prydeindod|Prydeinig]] dros y blynyddoedd, yn arbennig tuag at [[Brenhinoedd a breninesau Lloegr|teulu brenhinol Lloegr]] a'r [[Cenedlaetholdeb Cymreig|mudiad cenedlaethol yng Nghymru]].
 
Yn ddiweddar fodd bynnag, ac yn arbennig ers [[datganoli]] a sefydlu [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]], mae'r papur wedi mabwysiadu safbwynt mwy poblogaidd, Cymreigaidd.
 
Ei brif gystadleuydd yn y farchnad Gymreig yw'r ''[[Daily Post]]'' yn y gogledd. Ers tro byd mae'r ''Daily Post'' wedi rhoi'r gorau i gystadlu llawer yn y De â'r ''Western Mail'' ac yn canolbwyntio bron yn llwyr ar y Gogledd, ond mae'r ''Western Mail'' yn cael ei weld fel papur i Dde Cymru gan nifer o bobl yn y Gogledd o hyd. Mae'n debyg fod rhaniad ffocws daearyddol y ddau bapur yn deillio o'r ffaith eu bod yn rhannu'r un perchennog, sef cwmni Trinity Mirror ccc. Byddai'r cynllun arfaethedig i gyhoeddi papur newydd beunyddiol Cymreig arall yn y dyfodol agos, ''[[The Welsh Globe]]'' yn cynnyddu'r gystadleuaeth mae'r papur yn ei wynebu.