Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
interwici
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
'''Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr''' oedd y flwyddyn [[69]] O.C., pan fu pedwar ymerawdwr yn teyrnasu yn [[Rhufain]]: [[Galba]], [[Otho]], [[Vitellius]] a [[Vespasian]].
 
Dechreuodd y flwyddyn gyda Galba yn ymerawdwr. Roedd wedi ei enwi'n ymerawdwr gan [[Senedd Rhufain]] yn dilyn hunanladdiad [[Nero]] y flwyddyn flaenorol. Roedd Galba'n oedrannus a heb blant, felly roedd angen iddo enwi etifedd. Roedd [[Otho]] wedi disgwyl cael ei enwi'n etifedd, ond mabwysiadodd Galba Calpurnius Piso Licinianus fel mab a'i enwi'n etifedd. Ymatebodd Otho trwy gynllwynio gyda milwyr o [[Gard y Praetoriwm]] i wrthryfela yn erbyn GlabaGalba. Bu'r gwrthryfel yn llwyddiannus, a lladdwyd Galba a Piso. Cyhoeddwyd Otho yn ymerawdwr.
 
Yn y cyfamser roedd y [[Lleng Rufeinig|llengoedd]] yn [[yr Almaen]] wedi cyhoeddi [[Vitellius]] yn ymerawdwr, a byddin gref wedi cychwyn tua Rhufain i ennill yr orsedd iddo. Cyfarfu'r ddwy fyddin yng ngogledd [[yr Eidal]], a gorchfygwyd llengoedd Otho gan fyddin Vitellius ym [[Brwydr Gyntaf Bedriacum|Mrwydr Gyntaf Bedriacum]]. Lladdodd Otho ei hun, a daeth Vitellius yn ymerawdwr.