Y Fari Lwyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cyfs
→‎Cân y Fari Lwyd: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 6:
== Cân y Fari Lwyd ==
[[Delwedd:Y Far Lwyd 444.webmsd.webm|bawd|chwith|William Morgan Rees (gweithiwr rheilffordd, g. 1883), [[Pen–y–bont ar Ogwr]], Sir Forgannwg yn canu rhan agoriadol cân y Fari Lwyd.<ref>[http://www.amgueddfacymru.ac.uk/casgliadau/caneuongwerin/?id=2 amgueddfacymru.ac.uk;] adalwyd Ionawr 2016</ref>]]
Fel rhan o ddefod y Fari Lwyd, ceir ymryson rhwng y gwaseilwyr a pherchennog y tŷ, bob yn ail, gyda chais i ddod i fewn i'r tŷ. Yn Tâp AWC 7. Recordiwyd tâp gan [[Amgueddfa Werin Cymru]] yn Hydref 1953 o William Morgan Rees (gweithiwr rheilffordd, g. 1883), Woodlands, Brynmenyn, ger [[Pen-y-bont ar Ogwr]], Sir Forgannwg yn canu rhan agoriadol yr ysmryson hwn. Hyd at tuag 1933 arferai Rees weld gwŷr yn 'canu gwaseila', gan fynd a'r Fari Lwyd allan i'ri'r gogledd ddwyrain o Ben–y–bont ([[Coety]], [[Bryncethin]], ayb).
 
Ceir saith bennill sy'n cynrychioli rhan agoriadol defod y Fari Lwyd, pan ganai'r parti y tu allan i'r drws gyfres o benillion traddodiadol. Yna dôi'r 'pwnco', sef y ddadl (a genid ar yr un dôn, mewn cyfuniad o benillion traddodiadol a rhai ‘difyfyr’) rhwng aelod o'r parti a gwrthwynebydd y tu arall i'r drws. Fel arfer, ceid tynnu coes yn lled galed wrth i'r naill ochr ddifrio'r llall am ei ganu 'allan o diwn', ei feddwdod, ei grintachrwydd, ayb. Disgwylid i griw'r Fari Lwyd drechu yn y ddadl cyn ennill mynediad i'r tŷ a chael yno gacenni a diod ac weithiau, rodd ariannol. Weithiau, o leiaf, wedi gorffen 'pwnco', canai'r parti benillion ychwanegol yn cyflwyno'r holl aelodau ac yr oedd hefyd gân ffarwél y gellid ei chanu ar yr aelwyd. Yn ôl pob golwg, ar [[triban|fesur triban]] ac ar dôn wahanol yr oedd y ddwy gân olaf.