Y Gop: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:The 'Cairn' at Gop Hill - geograph.org.uk - 237197.jpg|300px|bawd|Y garnedd ar ben Y Gop.]]
Bryn a safle archaeolegol yn [[Sir y Fflint]] yw '''Y Gop''', sy'n dod o'r gair "copa". Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin y sir fymryn i'r gogledd o bentref [[Trelawnyd]], [[Sir Ddinbych]] a gellir ei ystyried fel un o gopaon gogleddol [[Bryniau Clwyd]], er ei fod fymryn i'r dwyrain o'r brif gadwyn. Dyma ail siambr gladdu fwyaf gwledydd Prydain - ar ôl [[Silbury Hill]] ger [[Avebury]] ac mae'n perthyn i [[Oes Newydd y Cerrig yng Nghymru|Oes Newydd y Cerrig]].<ref name="ReferenceA">''Discovering a Welsh Landscape'' gan Ian Brown; Windgather Press; tudalen38-9</ref> Yn lleol, gelwir y bryncyn hefyd yn Fryn y Saethau.
 
==Carnedd a chrug crwn==
Llinell 7:
Gerllaw ceir [[crug crwn]] ({{gbmapping|SJ088801}}). Cofrestrwyd y crug hwn gan [[Cadw]] a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: FL042.<ref>[http://www.whatdotheyknow.com/request/15714/response/38315/attach/html/2/SAMs%20by%20UA.xls.html Cofrestr Cadw.]</ref> Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb.
 
Yn ôl yr archaeolegydd Ian Brown, mae'r domen hon mor rwysgfawr ac enigmatig â Silbury Hill. Mae'n ofal o ran siap ac yn mesur 101 wrth 78 metr, ac yn 14m o uchder. Mae rhai o'r meini calchfae yn amlwg ar goll, ac ar un cyfnod credir y byddai ei liw gwyn calchog i'w weld am filltiroedd o'i amgylch. Am gyfnod credid mai perthyn i'r [[Oes Efydd]] ydoedd, ond bellach i Oes Newydd y Cerrig a bod dylanwad y [[Gwyddel]] arno.
 
==Ogofâu==
Llinell 13:
Ceir yn ogystal [[Ogofâu'r Gop|ogofâu]] ar lethrau'r Gop lle darganfuwyd olion cynhanesyddol yn cynnwys esgyrn [[hyaena]] a gweddillion pobl a gladdwyd yno yn y cyfnod [[Neolithig]], a hynny yn ddefodol, fe ymddengys. Damcanieithir fod yr ogofau a'r garnedd yn rhan o'r un safle defodol ac felly bod y garnedd yn perthyn i'r Oes Neolithig yn hytrach nag Oes yr Efydd, fel a dybiwyd yn y gorffennol.<ref>''Clwyd and Powys'', tt. 11-12.</ref>
 
Mewn un ogof 43m i'r de-ddwyrain o'r siambr gladdu dargafuwyd esgyrn [[hyena]], [[bison]], [[carw|ceirw]] amrywiol, [[ceffyl]] a [[rhinoseros gwlanog]]. Uwch ben y rhain, a oedd mewn haen o glai llwyd roedd potiau clai, siarcol ac olion coginio. Roedd yno hefyd rhai esgyrn anifail wedi'u llosgi a rhai dynol o dan faeni calchfaen. Yn 1958 tra'n archwilio'r haenau hyn canfyddodd yr archaeolegydd Boyd Dawkins ogof gudd a oedd yn cynnwys 14 ysgerbwd dynol, yn agos at ei gilydd. Roeddent wedi'u gosod yno un ar y tro, gyda phob un ar ei gwrcwd (hy gyda'r pengliniau ger yr ên). Mewn rhan arall o'r ogof gerllaw, canfuwyd 6 ysgerbwd arall. Oherwydd y dolenni cau gwregys arbennig gerllaw gellir eu dyddio i [[Oes Newydd y Cerrig yng Nghymru|Oes Newydd y Cerrig]]. Mae dolenni cau, fel y rhain, yn hynod o brin, gyda dim ond 23 wedi'u canfod; maent hefyd yn nodi fod eu perchnogion yn bobl o statws uchel o fewn eu cymdeithas. Ymhlith yr arteffactau eraill yn yr ogof roedd fflint wedi'i gaboli, crochenwaith 'Peterborough', cyllell fflint, pen-saeth, bwyell o [[Graig Lwyd]], [[Penmaenmawr]] a gên isaf [[lyncs]]. Mae'n ymddangos fod rhai o'r cyrff wedi'u claddu mewn man arall cyn eu cludo yma - ac roedd hyn yn ymarfer eitha cyffredin yn y cyfnod mesolithig.<ref>''Discovering a Welsh Landscape'' gan Ian Brown; Windgather Press; tudalen38-9<name="ReferenceA"/ref>
 
==Gweler hefyd==