Y Lôn Wen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 26:
Cyfrol hunangofiannol gan [[Kate Roberts]] yw '''''Y Lôn Wen''''' (cyhoeddwyd 1960). Is-deitl: 'Darn o [[hunangofiant]]'.
 
Y ffordd "sy'n mynd dros Foel Smatho i'r [[Waunfawr]] ac i'r nefoedd" yw Lôn Wen y teitl. Ganed Kate Roberts yn y bwthyn teuluol Cae'r Gors, yn [[Rhosgadfan]] ar lethrau [[Moel Tryfan]] yn rhanbarth [[Arfon]], [[Gwynedd]]. Roedd ei thad yn chwarelwr. Mae'r bywyd yng Nghae'r Gors a'r pentref yn gefndir holl-bwysig yn ei gwaith llenyddol cynnar ac mae ''Y Lôn Wen'' yn bortread cofiadwy o'r ardal a'i chymdeithas Gymraeg glos ar droad yr 20fed ganrif.
 
Mae'r gyfrol yn dangos adwaith plentyn synhwyrus a theimladwy i amgylchiadau bywyd ar yr aelwyd teuluol, yn y [[capel]] ac yng nghymdeithas y chwarelwyr ar adeg bwysig yn hanes [[diwydiant llechi Cymru]]. Gwelir hefyd sut y daeth y profiadau hynny yn sail i lawer o'i nofelau a straeon yn ddiweddarach. Mae'n llyfr unigryw felly, sy'n cofnodi yn gofiadwy cymdeithas Gymraeg arbennig mewn cyfnod allweddol, cyn y chwalfa fawr a ddaeth gyda'r [[Rhyfel Byd Cyntaf]]. Mae'n gyfrol o bwys i efrydwyr [[llên gwerin Cymru]] am ei bod yn cofnodi pethau fel yr afer o adrodd straeon o bob math o gwmpas y pentan a manylion eraill am ddiwylliant y tyddynwyr.
 
==Manylion cyhoeddi==
Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf gan [[Gwasg Gee]] yn 1960.
 
Adargraffiad 2010, Gwasg Gee. ISBN 9781904554097