Ynys Môn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Jac-y-do (sgwrs | cyfraniadau)
Partneriaethau rhyngwladol
tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 61:
 
===Daearyddiaeth===
Gydag arwynebedd o 720 km2, Ynys Môn yw [[ynys]] fwyaf Cymru.<ref>[http://angleseynature.co.uk/introduction.html Angleseynature.co.uk]</ref> Hi yw'r bumed fwyaf o ynysoedd llai Ynysoedd Prydain, heb gynnwys dwy ynys fawr Ynys Prydain ac Iwerddon. Mae bron y cyfan o'r ynys yn dir cymharol isel; y pwynt uchaf yw [[Mynydd Twr]] ar Ynys Cybi, 220 medr (722 troedfedd). Y pwyntiau uchaf ar y brif ynys yw [[Mynydd Bodafon]] (178 medr) a [[Mynydd Eilian]] (177 medr), tra mae [[Mynydd Parys]] ychydig yn is. O gwmpas y brif ynys, ceir nifer o ynysoedd llai. Y fwyaf o'r rhain yw [[Ynys Cybi]], ynys ail-fwyaf Cymru gydag arwynebedd o 39.44 km2 (15.22 mi2), lle ceir tref fwyaf Môn, [[Caergybi]], ac sydd â [[Cob|chob]] yn ei chysylltu â'r brif ynys. Ymysg yr ynysoedd eraill mae [[Ynys Seiriol]], [[Ynys Moelfre]] ac [[Ynys Llanddwyn]]. Gwahenir yr ynys o'r tir mawr gan [[Afon Menai]], sydd tua 14 milltir o hyd. Mae lled y Fenai yn amrywio o lai na chwarter milltir ger [[Porthaethwy]], lle mae [[Pont Y Borth]] yn ei chroesi, a ger [[Llanfairpwll]] lle mae [[Pont Britannia]] yn ei chroesi, i tua 3 milltir a hanner yn ei rhan orllewinol, er ei bod yn culhau eto ger [[Trwyn Abermenai]] yn ei heithaf gorllewinol. I'r gogledd-ddwyrain o'r pontydd mae'r Fenai yn ymledu dros [[Traeth Lafan|Draeth Lafan]] rhwng [[Penmon]] ac [[Ynys Seiriol]] yn y gogledd a [[Penmaenmawr]] yn y de ac yn mynd yn rhan o [[Bae Conwy|Fae Conwy]].
 
Ceir nifer o lynnoedd naturiol, yn bennaf yng ngorllewin yr ynys, yn cynnwys [[Llyn Coron]], [[Llyn Traffwll]] a [[Llyn Llywenan]]. Mae dwy gronfa ddŵr fawr wedi eu creu, [[Llyn Alaw]] a [[Llyn Cefni]]. Cymharol fychan yw'r rhan fwyaf o afonydd Môn, sy'n cynnwys [[Afon Cefni]], [[Afon Alaw]] ac [[Afon Braint]]. Ceir nifer o [[Cors|gorsydd]] ar yr ynys hefyd. Ar un adeg, roedd [[Cors Ddyga]] yn ymestyn yr holl ffordd o [[Malltraeth|Falltraeth]] hyd at gyrion Llangefni, hanner y ffordd ar draws yr ynys.
Llinell 77:
== Bywyd gwyllt ==
[[Delwedd:Sciurus vulgaris by redR 1.jpg|bawd|chwith|240px|Y Wiwer Goch]]
Nid oes unrhyw goedwig naturiol o faint sylweddol yn parhau ar yr ynys, ac ymddengys fod hyn wedi bod yn wir am rai canrifoedd o leiaf. Yr unig goedwigoedd mawr yw'r rhai conifferaidd a blannwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth yn ystod yr [[20fed ganrif]]; y mwyaf o'r rhain yw [[Coedwig Niwbwrch]] yn ne-orllewin yr ynys a Choedwig Pentraeth ar [[Mynydd Llwydiarth|Fynydd Llwydiarth]] yn y de-ddwyrain.
 
Ceir amrywiaeth o fywyd gwyllt ar Ynys Môn, a sefydlwyd nifer o warchodfeydd ar yr ynys. Mae'r ynys yn un o ychydig gadarnleoedd y [[Gwiwer goch|Wiwer Goch]] ym Mhrydain, ac yn y blynyddoedd diwethaf bu ymgyrch i ddifa'r [[Gwiwer Lwyd|Wiwer Lwyd]] o'r ynys i roi cyfle i'r goch ffynnu.<ref>[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_6600000/newsid_6606100/6606113.stm Gwiwerod Môn yn swyno'r sêr]</ref> Ceir y boblogaeth fwyaf o'r Wiwer Goch yng Nghoedydd [[Pentraeth]].
Llinell 104:
===Cyfnod y Rhufeiniaid ac Oes y Saint===
[[Image:House at Din Llugwy.jpg|chwith|thumb|200px|Din Llugwy: gweddillion un o'r tai crwn]]
Ymosododd y [[Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|Rhufeiniaid]] ar Ynys Môn am ei fod yn fangre lle yr oedd eu gelynion yn gallu cael lloches. Yr oedd y Derwyddon yn arwydd o wrthwynebiad gwleidyddol iddynt, ac roedd yno ysguboriau grawn i borthi eu gelynion. Yn ogystal yr oedd posibilrwydd cael [[copr]] yno. Mae'r [[hanes]]ydd Rhufeinig [[Tacitus]] yn disgrifio brwydr waedlyd ar yr ynys yn [[60]] neu [[61]] O.C. pan groesodd byddin dan [[Gaius Suetonius Paulinus]] dros [[Afon Menai]] mewn cychod a chipio'r ynys.
 
{{dyfyniad|Ar y lan gyferbyn yr oedd byddin y gelyn, tyrfaoedd o wŷr arfog, a merched yn rhuthro'n ôl a blaen drwy'r rhengoedd, wedi eu gwisgo mewn du fel ellyllon, eu gwallt yn chwifio yn yr awyr, a ffaglau'n fflamio yn eu dwylo. O'u hamgylch yr oedd y [[Derwyddon]] yn sefyll, eu dwylo wedi eu codi tua'r nefoedd, yn tywallt eu gweddïau erchyll.|||Tacitus|cyf. J. Owen Jones<ref>''Ynys Môn (Bro'r Eisteddfod 3) t. 31</ref>}}
 
O eiriau Tacitus, mae llawer o haneswyr wedi casglu fod yr ynys o bwysigrwydd mawr i'r [[Derwyddon]]. Fodd bynnag, nid yw Tacitus yn dweud hynny'n benodol. Bu'r Rhufeiniaid ym mwyngloddio [[copr]] ym [[Mynydd Parys]], ac adeiladwyd caer, [[Caer Gybi (caer)|Caer Gybi]], ar yr arfordir. Nid oes sicrwydd am ei dyddiad, ond credir ei bod yn perthyn i gyfnod olaf rheolaeth y Rhufeiniaid, a bod ganddi gysylltiad â'r llynges. Gerllaw, roedd tŵr gwylio ar Fynydd Twr.
 
Yn ôl y traddodiad, ymsefydlodd [[Gwyddelod]] ar Ynys Môn wedi i'r Rhufeiniaid ymadael, nes i'r brenin [[Cadwallon Lawhir]], tad [[Maelgwn Gwynedd]], eu gorchfygu yn gynnar yn y [[6ed ganrif]] a'u gyrru o'r ynys. Erbyn y cyfnod yna, roedd [[Cristnogaeth]] yn lledaenu tros yr ynys. Ymhlith y seintiau y cysegrwyd eglwysi iddynt mae [[Cybi]], [[Seiriol]], [[Dona]] ac wrth gwrs [[Dwynwen]], santes cariadon Cymru, y ceir ei heglwys ar [[Ynys Llanddwyn]].
Llinell 123:
*[[Rhosyr (cantref)|Cantref Rhosyr]] - cymydau [[Menai]], [[Dindaethwy]]
 
Dioddefodd yr ynys ymosodiadau gan y Llychlynwyr, yn enwedig y Daniaid yn y cyfnod rhwng 950 a 1000. Dywedir i Godfrey Haroldson gymryd dwy fil o gaethion o Ynys Môn yn [[987]], a thalodd brenin Gwynedd, [[Maredudd ab Owain]], swm mawr i'r Daniaid i brynu ei bobl yn ôl o gaethiwed. Yn [[1994]],cafwyd hyd i safle archeolegol yn [[Llanbedrgoch]] sef olion sefydliad o gyfnod y Llychlynwyr, efallai tua'r [[10fed ganrif]]. Mae cloddio archeolegol yma dros y blynyddoedd diwethaf wedi darganfod tystiolaeth yn awgrymu fod Llychlynwyr wedi ymsefydlu yma am gyfnod.
 
[[Delwedd:HywelabOwain.jpg|bawd|chwith|230px|Cofeb Hywel ab Owain ar [[Traeth Coch|Draeth Coch]] ger Pentraeth]]
 
Ymladdwyd nifer o frwydrau ar yr ynys. Yn [[1088]] ymunodd [[Hugh d'Avranches, Iarll 1af Caer|Hugh d'Avranches]], Iarll Caer gyda Hugh arall, [[Iarll Amwythig]] i geisio adennill ei diroedd yng Ngwynedd oddi ar [[Gruffudd ap Cynan]]. Enciliodd Gruffudd i Fôn, ond yna bu raid iddo ffoi i Iwerddon pan gafodd y llynges yr oedd wedi ei chyflogi gan Ddaniaid Iwerddon well cynnig gan y Normaniaid a throi yn ei erbyn. Newidiwyd y sefyllfa pan gyrhaeddodd llynges dan arweiniad Brenin [[Norwy]], [[Magnus III, Brenin Norwy|Magnus III]], a ymosododd ar y Normaniaid a lladd Hugh o Amwythig ger rhan ddwyreiniol [[Afon Menai]]. Gadawodd y Normaniaid yr ynys, a'r flwyddyn ganlynol dychwelodd Gruffudd i gymryd meddiant. Yn [[1157]], pan ymosododd [[Harri II, brenin Lloegr|Harri II]] ar [[Owain Gwynedd]], gyrrodd Harri lynges i ymosod ar Ynys Môn tra'r oedd prif fyddin y brenin yn ymosod ar hyd arfordir gogledd Cymru. Glaniodd y llynges ym Môn, ond gorchfygwyd hwy gan y Cymry lleol, gyda [[Henry FitzRoy]], mab gordderch [[Harri I, brenin Lloegr]] a [[Nest ferch Rhys ap Tewdwr]], yn un o'r lladdedigion. Yn [[1170]], lladdwyd [[Hywel ab Owain Gwynedd]] mewn brwydr yn erbyn ei frawd [[Dafydd ab Owain Gwynedd|Dafydd]] ym [[Pentraeth|Mrwydr Pentraeth]]. Ymladdwyd [[Brwydr Moel-y-don]] ar [[6 Tachwedd]] [[1282]] ar [[Afon Menai]] rhwng milwyr [[Edward I o Loegr]] a milwyr [[Llywelyn ap Gruffudd]], [[Tywysog Cymru]]. Roedd y Saeson wedi meddiannu Môn, ond gorchfygwyd hwy pan geisiasant groesi i [[Arfon]].
 
Pan oedd Tywysogion Cymru yn ymladd yn erbyn y gelyn roeddent yn aml yn dibynnu ar Ynys Môn am eu cyflenwad o ŷd. Yn ystod rhyfel [[1282]] yn erbyn [[Llywelyn ap Gruffudd]], cofnodir i [[Edward I o Loegr|Edward I, Brenin Lloegr]] yrru gweithwyr i'r ynys i gipio'r cynhaeaf. Wedi marwolaeth Llywelyn, adeiladodd Edward gastell ym [[Biwmares|Miwmares]] i'w helpu i ddal ei afael ar yr ynys.
Llinell 157:
Heddiw [[Llangefni]] yw prif dref yr ynys, ac yno mae pencadlys [[Cyngor Sir Ynys Môn]]. Cynghorwyr annibynnol sydd yn y mwyafrif ar y cyngor. Ers etholiad 2008, dim ond [[Plaid Cymru]] a'r [[Plaid Lafur (DU)|Blaid Lafur]] sydd wedi eu trefnu yn grwpiau pleidiol ar y cyngor. Mae gweddill y cynghorwyr, yn aelodau o bleidiau gwleidyddol eraill ac yn Annibynwyr, yn ymrannu yn grwpiau neu ffasiynau answyddogol: y mwyaf o'r ffasiynau hyn ar hyn o bryd (ers 2008) yw'r 'Annibynwyr Gwreiddiol', gyda 22 o gynghorwyr.
 
Mae'r ynys yn [[Ynys Môn (etholaeth Cynulliad)|Etholaeth Cynulliad]] ac yn [[Ynys Môn (etholaeth seneddol)|Etholaeth Seneddol]] ac yn rhan o [[Rhanbarth Gogledd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol)|Ranbarth Gogledd Cymru]] i'r [[Cynulliad Cenedlaethol]]. [[Rhun ap Iorwerth]] ([[Plaid Cymru]]) yw [[Aelod Cynulliad]] Ynys Môn, ac Albert Owen ([[Plaid Lafur (DU)|Plaid Lafur]]) yw'r [[Aelod Seneddol]]. Ynys Môn yw'r unig etholaeth yng Nghymru i gael ei chynrychioli yn San Steffan gan bedair plaid wahanol yn ystod yr [[20fed ganrif]]. Daliodd [[Megan Lloyd George]] y sedd dros y Rhyddfrydwyr o 1929 hyd 1951, yna daliwyd hi gan [[Cledwyn Hughes]] dros y Blaid Lafur o 1951 hyd 1979, gan [[Keith Best]] dros y Ceidwadwyr o 1979 hyd 1987 a gan [[Ieuan Wyn Jones]] dros [[Plaid Cymru|Blaid Cymru]] o 1987 hyd 2001.
 
=== Cymunedau Môn ===
Llinell 219:
{{dyfyniad|Y mae Môn yn ddaear sych a charegog, yn afluniaidd iawn ac anhyfryd yr olwg; yn debyg iawn, yn ei hansawdd allanol, i wlad [[Pebidiog]], sydd yn ffinio ar [[Tyddewi|Dyddewi]], eithr yn dra gwahanol iddi, er hynny, yng nghynhysgaeth fewnol ei natur. Canys y mae'r ynys hon yn anghymharol fwy cynhyrchiol mewn grawn gwenith na holl ardaloedd Cymru: yn gymaint felly ag y mae'n arfer diarhebu'n gyffredin yn yr iaith Gymraeg, "Môn Mam Cymru". Oherwydd pan fyddo'r holl ardaloedd eraill ymhobman yn methu, y mae'r wlad hon, ar ei phen ei hun, yn arfer cynnal Cymru i gyd â'i chnwd bras a thoreithiog o ŷd.|||Hanes y Daith Trwy Gymru|Gerallt Gymro}}
 
Mae cadw gwartheg hefyd wedi bod yn elfen bwysig yn amaethyddiaeth yr ynys ers canrifoedd. Yn y [[18fed ganrif]] roedd un o'r llwybrau [[Porthmon|porthmyn]] yn cychwyn ym Môn. Byddai'r gwartheg a gesglid o'r ffermydd ar yr ynys gan y porthmyn yn cael eu gyrru i [[Porthaethwy|Borthaethwy]], a chyn codi'r pontydd presennol byddai rhaid iddynt nofio'r Fenai gyda gwŷr mewn cychod i ofalu amdanynt. Erbyn hyn, mae cadw gwartheg yn llawer mwy cyffredin na thyfu cnydau ar yr ynys.
 
Mae sioe fawr amaethyddol, Sioe Môn, yn cael ei chynnal ar yr ail Ddydd Llun a Dydd Mawrth yn Awst bob blwyddyn ar gae Primin, sydd yn agos i bentref [[Gwalchmai]].
Llinell 229:
===Cludiant===
[[Delwedd:Holyhead station1.jpg|bawd|chwith|200px|Gorsaf reilffordd Caergybi]]
Y gwasanaeth fferi rhwng porthladd Caergybi a [[Dún Laoghaire]] a [[Dulyn]] yn [[Iwerddon]] yw un o'r cysylltiadau pwysicaf rhwng Iwerddon a Phrydain. Mae dau gwmni yn cynnig gwasanaeth fferi, [[Stena Line]] ac [[Irish Ferries]]. Ymhlith y llongau a ddefnyddir rhwng Caergybi a Dulyn, mae'r [[MS Ulysses]], fferi yn perthyn i Irish Ferries sy'n medru cario mwy o geir nag unrhyw fferi arall yn y byd.
 
Gan fod hwn yn un o brif gysylltiadau Iwerddon â gweddill yr [[Undeb Ewropeaidd]], mae'r cysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd ar draws yr ynys o Bont Britannia i borthladd Caergybi o gryn bwysigrwydd. Caergybi yw cychwyn [[Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru]], sy'n ei chysylltu â [[Crewe]]. Ceir nifer o orsafoedd bychain eraill ar yr ynys, yn [[Y Fali]], [[Rhosneigr]], [[Tŷ Croes]], [[Bodorgan]] a Llanfairpwll, ond nid yw pob trên yn aros yn y rhain.