Ysgol Friars, Bangor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 47:
Sefydlwyd yr ysgol i roi addysg ramadeg i fechgyn y tlodion. Yn yr oes honno, addysg yn y clasuron, [[Lladin]] a [[Groeg (iaith)|Groeg]], yn unig a roddwyd. Ac mae’n debygol nad y tlodion go iawn fuasai wedi elwa o’r fath addysg, ond plant y dosbarth canol a fuasai efallai yn paratoi at y weinidogaeth neu’r gyfraith, fel Geoffrey Glyn ei hunan.
 
Cynhaliwyd yr ysgol gan yr incwm o’r gwaddol a adawyd gen Geoffrey Glyn a chymwynaswyr eraill, sef rhenti ar dir yn [[Southwark]], [[Llundain]] a [[Croesoswallt|Chroesoswallt]] yn bennaf. Parhaodd yr ysgol yn hen gartref y Brodyr Duon ar lannau’r [[Afon Adda]] am dros ddwy ganrif.
 
===Yr ail adeilad, 1789===
Llinell 54:
Dan nawdd [[John Warren]], Esgob Bangor – cymeriad lliwgar a dadleuol – penderfynwyd trosglwyddo’r ysgol i safle gwell, ychydig ymhellach o’r afon. Cyllidwyd hyn yn rhannol trwy gau’r ysgol ym [[1786]], a chronni’r incwm blynyddol er mwyn cael digon i adeiladu ysgol newydd. Adeiladwyd yr ysgol newydd am £2,076 12s 5½d, ac fe'i hagorwyd ym [[1789]] ar safle ychydig yn nes at y Stryd Fawr, yn agos at y Ffordd Glynne presennol.
 
Yn y cyfnod hwn, datblygodd y cwricwlwm i gynnwys mathemateg, ysgrifennu a rhai pynciau eraill mwy cyfarwydd i ddisgyblion heddiw.
 
Bu llanw a thrai yn hanes yr ysgol yn y cyfnodau’n dilyn. Ffynnodd yn fuan wedi’r symud safle. Dan brifathrawiaeth Totton yng nghanol y [[19eg ganrif]], dirywiodd enw’r ysgol a cholli disgyblion nes gorfod cau ym [[1861]]. Ail-agorwyd yr ysgol ym [[1866]] dan brifathro newydd, Lewis Lloyd, ac yn y cyfnod hwn daethpwyd â chorff llywodraethol newydd, seciwlar, i ddisodli’r Deon a Chabidwl.
 
Ym [[1881]], bu epidemig o’r [[teiffoid]] ym Mangor, a gorfodwyd i’r ysgol symud i [[Penmaenmawr|Benmaenmawr]] i osgoi’r effaith. Roedd cyflwr gwaelod y dyffryn, yn enwedig yn agos i’r afon, yn afiach yn yr oes honno, ac fe fu i’r achlysur beri i’r ysgol ystyried symud at leoliad mwy addas.
 
Yn y cyfnod hwn, hefyd, daeth Deddf Addysg Ganolradd Gymreig i rym, gan greu trefn wladwriaethol ar gyfer addysg yng Nghymru. Er bod ambell i ysgol elusen a phreifat wedi ei heithrio o’r drefn, ac ambell un wedi dadlau o blaid eithrio Friars, daeth Ysgol Friars i fod yn rhan o’r drefn ysgolion y wladwriaeth, dan reolaeth Cyngor [[Sir Gaernarfon]].
 
===Y drydydd adeilad, 1900===
 
[[Delwedd:Friars-ffriddoedd.jpg|bawd|dde|200px|Adeilad Ysgol Friars ar safle Ffriddoedd, ysgol 1900-1999]]
Gyda chyfraniadau gan Gyngor Sir Gaernarfon, gwerthiant yr hen safle yng ngwaelod y ddinas ac apêl gyhoeddus am gyfraniadau, adeiladwyd ysgol newydd ar safle Ffriddoedd am gost o £11,600. Dyluniwyd yr adeilad gan benseiri Douglas & Minishull, ac fe’i adeiladwyd o [[calchfaen|galchfaen]] a [[tywodfaen|thywodfaen]] gan Mri. James Hamilton a’i Fab. Gosodwyd y seiliau gan [[Watkin Herbert Williams]], Esgob Bangor ar [[12 Ebrill]] [[1899]] ac fe agorwyd yr adeilad newydd ym mis Rhagfyr [[1900]].
 
Wrth symud at Ffriddoedd, y bwriad oedd symud at ardal wledig allan o’r ddinas. Wedi’r haint teiffoid a’r pryder yn gyffredinol am gyflwr afiach dyffryn Adda, roedd ardal Ffriddoedd yn cael ei weld fel amgylchedd mwy iachus i’r ysgol. Ond roedd y ddinas wrthi'n ymestyn tu hwnt i’w ffiniau traddodiadol. Er mwyn gwarchod mymryn o’r amgylchfyd gwledig wrth i weddill yr ardal ddatblygu, ym [[1955]] prynodd Dr. R. L. Archer, a fu unwaith yn Gadeirydd y Llywodraethwyr, llain o dir gyferbyn â'r ysgol a’i roi i’r ysgol gyda’r bwriad y cedwir y tir hwn, "Llain Dr. Archer", yn fytholwyrdd.
 
Ym [[1957]] trefnwyd sawl achlysur i gofnodi ac i ddathlu pedwar canmlwyddiant yr ysgol. Gosodwyd ffenestri gwydr lliw yn yr adeilad i gofnodi’r achlysur.
Llinell 77:
Ond ym [[1971]], cafwyd ail-drefnu sylweddol, pryd y daeth tair ysgol uwchradd at ei gilydd - Ysgol Friars, Ysgol Sirol y Genethod (sef ysgol ramadeg arall), ac ysgol Deiniol (ysgol eilradd fodern gymysg). Daeth y tair ysgol at ei gilydd i ffurfio un ysgol gyfun, dan yr enw Friars. Sefydlwyd yr ysgol i ddechrau ar dri safle. Defnyddiwyd safle hen ysgol y genethod (safle Tryfan) fel ffrwd iaith [[Cymraeg|Gymraeg]] i’r blynyddoedd isaf, a hen adeilad Friars (safle Ffriddoedd) fel ffrwd iaith [[Saesneg]] i’r blynyddoedd isaf. Daeth y blynyddoedd uwch at ei gilydd mewn adeiladau newydd a adeiladwyd am £300,000 ar safle newydd yn Eithinog.
 
Cafwyd ail-drefnu pellach ym [[1978]]. Gwahanwyd y ffrwd iaith Gymraeg i ffurfio ysgol 11-18 newydd, [[Ysgol Tryfan]], ar safle Tryfan. Daeth ysgol Friars i fod yn ysgol cyfrwng Saesneg yn bennaf ar ddau safle, Ffriddoedd ac Eithinog.
 
Oherwydd arferion adeiladu’r [[1960au]], roedd rhaid ailadeiladu bron y cyfan o adeiladau Eithinog. Dros gyfnod fe wellwyd ac ehangwyd y rhain er mwyn uno’r holl ysgol ar safle Eithinog erbyn [[1999]].
Llinell 84:
 
===Dathlu 450 mlynedd===
Cynhaliwyd Gwasanaeth o Ddiolchgarwch a Choffadwriaeth yn [[Eglwys Gadeiriol Bangor]] yn Ebrill [[2007]] i gofnodi 450 mlynedd o Ysgol Friars. [http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_6570000/newsid_6575300/6575369.stm]
 
==Yr ysgol fodern==
 
Ers [[1999]], mae’r ysgol bresennol wedi eu huno ar un safle yn Eithinog.
 
Mae’n ysgol gyfun, oedran 11-18, gyda 1200 o ddisgyblion o Fangor ac ardal eang o gwmpas. Y prifathro presennol yw Neil Foden.
 
==Olion a chreiriau==
Llinell 100:
Mae adeilad Ffriddoedd yn parhau i sefyll ac wedi ei ddynodi yn [[Adeilad Rhestredig]] Graddfa II. Defnyddir yn helaeth gan [[Coleg Menai|Goleg Menai]].
 
Am ran helaeth o oes yr ysgol, cynhaliwyd ei gostau rhedeg gan renti ar dir yn Southwark, Llundain. Mae ysgol gynradd yn sefyll ar ran o’r tir hwnnw heddiw – ac yn cofnodi’r cysylltiad trwy ei henw, sef "Friars Primary School".
 
==Symbolau==
Llinell 110:
Yr arwyddair gyda’r arfbais yn [[Lladin]] yw ''Foedere Fraterno''- “Ymlaen â’r brodyr” – gan gyfeirio unwaith eto at y brodyr duon.
 
Mae’r symbolau hyn, a welwyd ar un adeg ar gapiau a blaserau bechgyn yr ysgol ramadeg, i’w gweld heddiw ar grysau polo a chrysau chwys.
 
==Cyn-ddisgyblion nodedig==