Ysgol Gymraeg Pwll Coch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Troellwr (sgwrs | cyfraniadau)
Adnewyddu dolen
tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 34:
| gwefan = http://www.ysgolpwllcoch.co.uk
}}
[[Ysgol gynradd]] [[Cymraeg|Gymraeg]] yn ardal [[Lecwydd, Caerdydd|Lecwydd]] yng nghymuned [[Treganna]], [[Caerdydd]] yw '''Ysgol Gymraeg Pwll Coch'''.
 
==Cyffredinol==
Llinell 53:
Yn Hydref 2010 cyhoeddodd [[Cyngor Caerdydd]] nifer o gynlluniau gan gynnwys bwriad i ehangu Pwll Coch yn ysgol dair ffrwd.<ref>[http://www.cardiff.gov.uk/objview.asp?object_id=18223 SCHOOL ORGANISATION PROPOSALS: 21ST CENTURY SCHOOLS STRATEGIC OUTLINE PROGRAMME, 22 October 2010].</ref> Ni weithredwyd y cynllun hwnnw, er y mynnwyd bod Pwll Coch yn derbyn tair ffrwd y flwyddyn am gyfnod penodedig o dair blynedd (y cyfnod hwyaf ar gyfer cynllun o'r fath). Yn Ionawr 2011 cyhoeddwyd y ddogfen 'Ysgolion yr 21ain Ganrif: Ymgynghoriad ar ddarpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg o amgylch ardal Treganna', ond nid oedd ynddi unrhyw gyfeiriad at ehangu Pwll Coch.<ref>[http://www.caerdydd.gov.uk/ObjView.asp?Object_ID=18890&language=cym Ysgolion yr 21ain Ganrif: Ymgynghoriad ar ddarpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg o amgylch ardal Treganna], Ionawr 2011.</ref>
 
Ar 23 Tachwedd 2011, cyflwynodd y Cyngor ei gais cyfalaf Band A i [[Llywodraeth Cymru|Lywodraeth Cymru]] dan gynllun 'Ysgolion yr 21ain ganrif'. Un elfen o'r cais oedd cynlluniau ar gyfer a 'New Grangetown Welsh-medium Primary School (formerly listed as Pwll Coch 1FE extension)'.<ref>[http://www.cardiff.gov.uk/Objview.asp?Object_ID=21361 Programme of Projects].</ref> Yn Rhagfyr 2011 rhoddodd y Llywodraeth sêl ei bendith mewn egwyddor ar y cais, yn ddibynnol ar achos busnes boddhaol.
 
Yn Ionawr 2013 cyflwynodd y Cyngor gynlluniau i wneud Pwll Coch yn ysgol dair ffrwd yn barhaol, gan fwrw amheuaeth ar y cynlluniau ar gyfer ysgol newydd yn Grangetown.<ref>[http://www.cardiff.gov.uk/objview.asp?object_id=24849 CABINET MEETING, 24 JANUARY 2013]: SCHOOL ORGANISATION PLANNING PROVIDING ADDITIONAL WELSH-MEDIUM PRIMARY PROVISION IN THE CANTON, GRANGETOWN AND RIVERSIDE AREAS REPORT OF CHIEF OPERATING OFFICER.</ref> Pe digwyddai hynny, byddai angen rhagor o adeiladau dros-dro gan nad oes amserlen ar gyfer adeiladau parhaol. Mae'r neuadd bresennol yn addas ar gyfer dwy ffrwd. Bydd yngynghoriad ar y cynllun hwn yn cau ar 19 Ebrill 2013.<ref>[http://www.cardiff.gov.uk/content.asp?nav=2869,3047,5087&parent_directory_id=2865&id=14139&language=CYM&pagetype=&keyword= Ymgynghoriad ar sefydlu darpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg ychwanegol yn wardiau Treganna, Grangetown a Glan-yr-afon yng Nghaerdydd].</ref>
 
Yn eu hymateb i'r ymgynghoriad ynghylch [[Ysgol Gymraeg Treganna]] yn 2011, nododd y tri chyngorydd o'r [[Y Blaid Lafur (DU)|Blaid Lafur]] sydd yn cynrychioli Treganna y byddent yn croesawu gweld ehangu 'Ysgol Pwll Coch (in permanent buildings) from two to three form entry to meet demand for Welsh-medium education in Canton and the surrounding areas'.<ref>[http://www.cardiff.gov.uk/objview.asp?object_id=19575 SCHOOL ORGANISATION PLANNING: PROVISION OF WELSH MEDIUM AND ENGLISH MEDIUM COMMUNITY PRIMARY SCHOOLS IN AND AROUND CANTON: REPORT OF CORPORATE DIRECTOR (PEOPLE)], 7 Ebrill 2011.</ref>