Harold Lowe: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 17:
==Blynyddoedd cynnar==
Ganwyd Harold Lowe yn [[Eglwys Rhos]], ger [[Conwy]] ym 1882 y pedwerydd o wyth o blant a anwyd i George a Harriet Lowe. Bwriad y tad oedd i Harold cael ei brentisio i ddyn busnes llwyddiannus yn [[Lerpwl]] ond roedd Harold yn benderfynol o fynd i'r môr. Yn 14, rhedodd i ffwrdd o'i gartref yn [[Abermaw|y Bermo]] lle'r oedd wedi mynychu'r ysgol a ymunodd â'r Llynges Fasnachol, yn gwasanaethu ar hyd Arfordir Gorllewin Affrica. Dechreuodd Lowe fel bachgen ar fwrdd sgwneri arfordirol Cymru wrth weithio i ennill ei ardystiadau. Ym 1906, llwyddodd yn yr ardystiadau i ddyfod yn ail fêt. Ym 1908, fe enillodd dystysgrif mêt cyntaf.
 
Wedi ennill tystysgrif Meistr ymunodd Lowe a chwmni White Star ym 1911. Gwasanaethodd fel trydydd swyddog ar longau'r ''Belgic'' a'r ''Tropic'' cyn cael ei drosglwyddo i'r Titanic fel y pumed swyddog ym 1912. Er gwaethaf ei flynyddoedd niferus ar y môr, mordaith y Titanic oedd y tro cyntaf iddo wneud taith trawsatlantig.